Llwyddiant Prosiectau’r Gronfa Rhwydweithiau Natur!

Llwyddiant Prosiectau’r Gronfa Rhwydweithiau Natur!

Vicarage Meadows - Duncan Ludlow

Mae prosiectau’r Gronfa Rhwydweithiau Natur (NNF) gan Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru (YNDGC) – Ceidwaid y Môr a Chysylltu’r Dyfodol - wedi gwneud cyfraniad gwych at gefnogi gwaith cadwraeth hanfodol a gwaith ymchwil pwysig yr Ymddiriedolaeth dros y flwyddyn ddiwethaf.

Ceidwaid y Môr a Cysylltu'r Dyfodol

The funding has also allowed WTSWW to assist in improving and strengthening the resilience of Wales’ network of protected land and marine sites, supporting a green recovery for nature and its local communities.

Darganfyddwch fwy trwy glicio ar y dolenni gwahanol brosiectau isod.

Beth, Skomer
Ceidwaid y Môr

Ynys Sgomer

Uchafbwyntiau'r Prosiect

 Ceidwaid y Môr - Prosiect Morol

Mae gwaith monitro morol YNDGC yn casglu tystiolaeth ar gyfer setiau data allweddol, a ddefnyddir i gryfhau gwytnwch rhwydwaith Cymru o safleoedd morol gwarchodedig a diogelu’r rhywogaethau morol a geir yn y safleoedd hyn. Mae setiau data tymor hir, di-dor yn arbennig o bwysig i asesu tueddiadau poblogaeth eang, llenwi bylchau mewn gwybodaeth, a llywio penderfyniadau ynghylch defnyddio’r amgylchedd morol.

Juvenile dolphin in rough sea

John MacPherson/2020VISION

Ceidwaid y Môr

Morol

Uchafbwyntiau'r Prosiect

Cysylltu'r Dyfodol - Gwarchodfeydd Natur

Mae prosiect ‘Cysylltu’r Dyfodol’ YNDGC wedi galluogi’r Ymddiriedolaeth i fuddsoddi mewn gwaith seilwaith hanfodol ac offer i’w galluogi i gynnal a gwella ei safleoedd gwerthfawr yn ne a gorllewin Cymru fel eu bod yn gallu parhau i weithredu fel elfennau allweddol yn rhwydwaith natur Cymru.

Vicarage Meadows

Vicarage Meadows - Duncan Ludlow

Cysylltu'r Dyfodol

Gwarchodfeydd Natur

Uchafbwyntiau'r Prosiect

Gyda diolch

Ariennir y Gronfa Rhwydweithiau Natur gan Lywodraeth Cymru a’i gweinyddu gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol yng Nghymru.