Cysylltu'r Dyfodol - Nature Reserve Highlights

Uchafbwyntiau Gwarchodfa Natur

Cysylltu'r Dyfodol

Uchafbwyntiau Prosiect Allweddol - Cysylltu Ein Dyfodol

Dywedodd Paul Thornton, Rheolwr Gwarchodfeydd yn YNDGC, “Mae’r prosiect NNF1 wedi bod yn allweddol i’n galluogi ni i ddarparu datrysiadau cadwraeth a rheoli cynefinoedd yr oedden ni’n credu’n flaenorol ei bod yn amhosib eu cyflawni. Mae hefyd wedi gwella’r hygyrchedd a’r wybodaeth yn ein gwarchodfeydd natur ni ac wedi newid hen offer a chyfarpar sy’n galluogi rheolaeth gynaliadwy barhaus.”

  • Mae gwaith prosiect ‘Cysylltu’r Dyfodol’ YNDGC wedi canolbwyntio ar waith blaenoriaeth uchel  yn rhoi sylw i glefyd y coed ynn yn nifer o warchodfeydd yr Ymddiriedolaeth Natur, gan gynnwys Coed y Bwl, Coed y Bedw, Coed Dyrysiog, Coed Garnllwyd a Phwll y Wrach. Mae llawer o'r gwaith hwn wedi bod i wneud ymyl y ffordd yn ddiogel.
  • Bellach mae cyflenwad dŵr a ffensys newydd yn Nhrwyn Larnog i alluogi pori coed y glaswelltir.
  • Cyflawnodd tîm YNDGC waith i docio a lleihau tyfiant gwrych o goed ffawydd sy'n tyfu ar ffin y cae rhwng y ddôl ddwyreiniol a'r ddôl orllewinol. Nod y gwaith ar y coed yw lleihau'r cysgod a'r effaith wrth i’r dail syrthio ar y ddôl, oherwydd gallai hyn fod yn ffactor sy'n cyfrannu at ddirywiad y tegeirian gwyn bach.
  • Caniataodd y prosiect hefyd i YNDGC newid yr hen Guddfan Palod ar Ynys Sgogwm! Mae newid y strwythur 40 oed presennol yn caniatáu i astudiaethau tymor hir YNDGC o oroesiad, cynhyrchiant a deiet palod barhau, gan fwydo i’n gwaith ni yn monitro nodweddion AGA. Bydd y dyluniad unigryw yn caniatáu mynediad digynsail i ecoleg ac ymddygiad magu'r Palod heb ymyrraeth, drwy'r tyllau artiffisial sydd wedi'u hadeiladu yn y strwythur a’r gwydr dwyffordd. Bydd treftadaeth adar môr yr ynys yn cael ei deall yn well gan ymwelwyr â Sgogwm, a fydd hefyd yn elwa o ddefnyddio’r guddfan newydd a sicrhau dealltwriaeth unigryw o’r adar môr eiconig yma.
  • Mae un o'r prosiectau mwyaf cyffrous y mae NNF1 wedi galluogi i ni ei gyflawni yn Llyn Fach, Rhigos. Mae'r warchodfa natur SoDdGA yma’n cynnwys llyn mynyddig mwyaf deheuol Cymru, clogwyni, rhos ac adfer rhos ar hen blanhigfa gonifferaidd. Mae dwy ran i’r prosiect:

1. Gwarchod cynefinoedd a rhywogaethau pwysig sy’n bodoli eisoes, fel rhedynach teneuwe Wilson ar y clogwyni a llygoden bengron y dŵr ar gyrion y llyn. Talodd y cyllid i gontractwyr mynediad rhaff arbenigol weithio ar draws y clogwyni, y llethrau sgri a’r tir serth i gael gwared ar goed sbriws Sitca, coed aeddfed a choed hadu i samplu a thynnu eginblanhigion â llaw. Mae’r coed hyn yn ganlyniad “glaw had” o blanhigfeydd coedwigaeth uwchben ac yn bygwth y cynefinoedd bregus ar y llethrau a’r rhai islaw.

2. Galluogi cyflwyno pori cadwraeth i hwyluso adfer y rhostir; nid oedd posib ffensio'r safle ucheldir agored yma ac nid oedd datrysiadau pori wedi'u hystyried yn hyfyw yn flaenorol. Talodd NNF1 i ni osod cyfleusterau trin a llwytho yn eu lle, cyflogi ymgynghorwyr arbenigol ar gyfer hyfforddiant a chyngor, a dod o hyd i borwr priodol gyda gwartheg priodol a phrynu coleri geoffens.

Dywedodd Duncan Ludow, Rheolwr Gwarchodfeydd ar gyfer YNDGC, “Mae’r gronfa Rhwydweithiau Natur wedi bod yn hwb enfawr i’n gwarchodfeydd ni. Mae'r safleoedd gwarchodedig y mae YNDGC yn eu rheoli yn gysylltiadau pwysig yn rhwydwaith ecolegol Cymru. Mae’r cyllid yma wedi ein galluogi ni i wella cyflwr y safleoedd gwarchodedig rydyn ni’n eu rheoli, a bydd yn helpu i ddiogelu’r rhywogaethau a’r cynefinoedd arbennig yma ar gyfer y dyfodol.”

Mae’r holl waith yma, boed fawr neu fach, wedi cyfrannu at amcanion Ymddiriedolaethau Natur y DU drwy helpu i ddiogelu ac adfer cynefinoedd y DU er budd bywyd gwyllt a chenedlaethau’r dyfodol.