Amddiffynwch Natur

Yellowhammer dead at the side of the road

Yellowhammer dead at the side of the road © Shutterstock

#AmddiffynwchNatur: Rydyn ni eich angen chi

Mae Llywodraeth y DU yn bygwth byd natur, yn ddifrifol

Rydyn ni'n gwybod eich bod chi mor ddig â ninnau am gynlluniau Llywodraeth y DU i newid deddfau natur a hinsawdd - ac rydyn ni'n gofyn i chi helpu #AmddiffynNatur.

Mae natur wedi dioddef ergyd drom; yn ystod yr wythnos ddiwethaf yn unig, mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi y byddant yn:

  • Codi'r gwaharddiad ar ffracio yn Lloegr
  • Cael gwared ar ddeddfau pwysig sy'n amddiffyn natur
  • Ystyried cael gwared ar gynlluniau i wobrwyo ffermwyr am reoli tir mewn ffordd gyfeillgar i natur.

Mae’r rhain yn mynd yn groes i’r addewidion penodol a wnaeth y Blaid Geidwadol yn eu maniffesto yn 2019 a’r mandad y cawsant eu hethol i lywodraethu arnynt. Does dim dewis ar ôl i ni ond gofyn i’n harweinwyr gwleidyddol ein cynrychioli ni – eu hetholwyr.

Sut allwch chi helpu: cam wrth gam

A poster at a climate march reads: "I want you to act as you would in a crisis. Act like our house is on fire because it is!"
CAM UN

Trydarwch i’ch AS

Os ydych chi ar Twitter, defnyddiwch ein ffurflen syml i anfon neges drydar at eich AS.

Take the action

 

 

A person writing a letter
CAM DAU

Ysgrifennwch at eich AS

  1. Llawrlwythwch ein llythyr templed yma
  2. Golygwch neu ychwanegu at y testun i adlewyrchu eich pryderon eich hun
  3. Dewch o hyd i'ch AS yma
  4. Anfonwch eich llythyr drwy'r post neu e-bost at
Arweiniad pellach yma

  

Postcard
STEP THREE

Send a postcard to your MP

Ask your MP to speak up for nature by sending a postcard that will land on the doormat of their office.

Take action

Pam mae'r Ymddiriedolaethau Natur ac elusennau amgylcheddol eraill mor bryderus?

Rydyn ni’n credu bod Llywodraeth y DU wedi lansio ymosodiad llawn ar fyd natur – gan adael bywyd gwyllt heb ei amddiffyn drwy rwygo rhai o’r cyfreithiau mwyaf sylfaenol sydd gennym ni.

Mae deddfau cynllunio a ‘pharthau buddsoddi’ newydd a gyhoeddwyd ddydd Gwener 23 Medi yn awgrymu y byddai’n ‘rhydd i bawb’ ddinistrio fyd natur. Fe fydden nhw’n gwanhau’r cyfreithiau oedd yn bodoli gynt i’w hamddiffyn rhag y jac-codi-baw a choncrit. Gallai Mesur Cyfreithiau Ewropeaidd Cadwedig newydd hefyd olygu diwedd amddiffyniadau sylfaenol, gan arwain at golli safleoedd bywyd gwyllt dynodedig a llacio cyfreithiau llygredd, gan arwain at fwy o garthffosiaeth yn ein hafonydd a’n nentydd.

Ar ben hynny, mae Llywodraeth y DU hefyd yn adolygu’r system newydd sydd wedi’i datblygu i wobrwyo ffermwyr sy’n helpu i adfer yr amgylchedd. Mae adroddiadau’n awgrymu yn lle hynny y gallent ddychwelyd yn ôl i’r hen drefn o dalu ffermwyr yn dibynnu ar faint o dir y maent yn berchen arno (gyda thirfeddianwyr mwy yn derbyn mwy o gymhorthdal). Dyma dro bedol llwyr ar y diwygio amaethyddiaeth yr addawodd y Blaid Geidwadol ei gyflawni yn eu maniffesto etholiadol yn 2019.

Gallwch ddarllen mwy am y materion hyn yn ein blogiau a rennir isod.