Ceidwaid y Môr - Marine

Ceidwaid y Môr

Morol

Uchafbwyntiau Prosiect Morol Allweddol – Ceidwaid y Môr      

Un o ddarganfyddiadau mwyaf cyffrous y prosiect oedd casglu’r recordiadau cyntaf o alwadau brefu dolffiniaid trwyn potel ym Mae Ceredigion! Ynghyd ag ecoleoli, mae’r brefu yn ffordd arall o ddynodi gweithgarwch chwilota am fwyd mewn data acwstig am ddolffiniaid. Efallai y bydd gan hyn berthnasedd cadwraeth yn y dyfodol ar gyfer deall safleoedd pwysig ar gyfer y rhywogaeth yma. Sylwch – mae’r gri frefu wedi'i recordio mewn dolffiniaid trwyn potel mewn rhannau eraill o'r byd.

• Rydyn ni hefyd wedi ailganfod chwibanau unigryw y dolffiniaid mewn gwahanol ardaloedd ledled Bae Ceredigion, gan ein galluogi i sicrhau gwybodaeth am ddefnydd dolffiniaid unigol o safleoedd.
• Mae’r delweddau adnabod ffotograffau wedi ein galluogi ni i adnabod dolffiniaid trwyn potel y tynnwyd lluniau ohonynt gyntaf ym Mae Ceredigion yn y 1990au.
• Galluogodd ein diwrnod Ceidwaid y Môr ni i arddangos ein hymchwil fel rhan o’r prosiect yma i’r gymuned leol ac aelodau’r cyhoedd.
• Rydyn ni wedi gallu hyfforddi gwirfoddolwyr mewn casglu a dadansoddi data acwstig ac adnabod ffotograffau. 
• Mae tîm morol YNDGC wedi cynhyrchu animeiddiad 4 munud hefyd i’w ddosbarthu ar-lein drwy ein cyfryngau a thri bwrdd gwybodaeth fformat mawr i’w harddangos yng Nghanolfan Ymwelwyr Bywyd Gwyllt Morol Bae Ceredigion.
• Wedi darparu cyfleoedd i ddinasyddion-wyddonwyr, gan gynnwys gwyddonwyr ar ddechrau eu gyrfa, gael profiad uniongyrchol o arolygon gwyddonol a chasglu data.
 

Dywedodd Dr Sarah Perry, Rheolwr Morol ar gyfer YNDGC, “Mae Prosiect y Gronfa Rhwydweithiau Natur wedi ein galluogi ni i wella ein hymchwil i ddolffiniaid trwyn potel ym Mae Ceredigion. Fel rhan o'r prosiect yma rydyn ni wedi gweithio ochr yn ochr â Phrifysgol Bryste i gasglu data gweledol ac acwsteg drwy gydol y flwyddyn, a chynnal arolygon mamaliaid morol yn seiliedig ar gychod drwy gydol y flwyddyn. Rydyn ni wedi gallu hyfforddi dinasyddion-wyddonwyr mewn technegau casglu a dadansoddi data, gan helpu i wella ein dealltwriaeth ni a nhw o ddolffiniaid trwyn potel ym Mae Ceredigion. Mae cyllid o’r grant yma wedi ein galluogi ni i brynu offer hanfodol yn ogystal â’n galluogi ni i greu animeiddiad sy’n tynnu sylw at y technegau ymchwil rydyn ni’n eu defnyddio i ddarganfod mwy am ddolffiniaid trwyn potel ym Mae Ceredigion. Gan ddefnyddio data a gasglwyd, rydyn ni wedi dechrau llenwi catalog chwibanau unigryw dolffiniaid trwyn potel, wedi cael ffotograffau o ddolffiniaid unigol i'w hychwanegu at ein catalog adnabod ffotograffau presennol ac wedi casglu'r recordiadau cyntaf o frefu dolffiniaid trwyn potel ym Mae Ceredigion. Mae’r prosiect yma wedi ein galluogi ni i ddeall mwy am symudiadau unigol, defnydd o safle, ac ymddygiad cymdeithasol a lleisiol dolffiniaid.”

Dolphins swimming next to boat

Janet Baxter