Seed Harvesting in Brecknock

Seed Harvesting in Brecknock

On a blisteringly hot day Pauline and Steph set out to harvest wildflower seed from two of the Brecknock nature reserves.

Canfod y cyfieithiad Cymraeg ar y gwaelod

Arriving at Ty Mawr Lime to collect the hired seed harvester it soon became clear that the Brecknock trailer was nowhere near big enough for this machine.  Luckily Nigel was happy to let us borrow their trailer but that required going to another site to collect it and then returning for the seed harvester. This did save time in the long run because we were able to get the quad on the trailer with the harvester avoiding much shuttling between sites.

The seed is being collected as part of the Green Connections Project and will be distributed to landowners working with the project to increase biodiversity in their meadows as well as some community sites.  Seed with local provenance is much better than buying in seed which may have come from other parts of the UK.  Local sub-species may be better adapted to conditions in this area.

Trewalkin was deemed the easier site to try first as the access is easier and the site more level.  It was necessary to learn how to man-handle the trailer ramps into position and unload the two machines safely.  A bit of a challenge as both of us are fairly petite!

Wildflower Seeds

Trewalkin Meadow is a small, damp, flower-rich meadow at the foot of the Black Mountains between Llangorse and Talgarth.  It is how much of Brecknock would have looked 100 years ago before the habitat was lost due to changes in farming practices.  Flowers we hoped to collect see from were common spotted and early purple orchids, yellow rattle, betony, ragged robin, meadowsweet and great burnet.  The Devil’s-bit Scabious wasn’t ready yet so we avoided the patches where it was dominant and will return to use a different collection method.

After a few runs of the field and we had a reasonable amount. The seed was spread out on a sheet in the sun to dry a bit while we had some lunch in the shade before loading up and moving on.

Cae Eglwys is another good example of a wildflower meadow but trickier all round for this operation.  It is at a higher altitude and quite dry in places with amazing views of the Brecon Beacons.  Knapweed, eyebright, harebells, fleabane, and sneezewort are among the flowers found here.

The access track is very rough and entrance to the field very awkward (don’t try to get here in a car!).  However because it was so dry it was possible to turn around and unload outside of the reserve.  The tough knapweed stems made it difficult to set the harvester at a good level to collect the lower growing plants.  Much more debris was collected in the process at this site. But it can be sifted out.  The sneezewort will be collected later.

Seed Harvesting

Ar ddiwrnod chwilboeth, aeth Pauline a Steph ati i fedi hadau blodau gwyllt o ddwy o warchodfeydd natur Brycheiniog. 

Ar ôl cyrraedd Calch Tŷ Mawr i gasglu’r peiriant medi hadau ar osod, daeth yn glir nad oedd trelar Brycheiniog yn ddigon mawr o bell ffordd ar gyfer y peiriant hwn.  Yn ffodus, roedd Nigel yn hapus i adael i ni fenthyca’u trelar nhw, ond roedd hynny’n golygu mynd i safle arall i’w gasglu ac yna dychwelyd am y peiriant medi hadau. Gwnaeth hyn arbed amser yn y pen draw oherwydd i ni allu gael y cwad ar y trelar gyda’r peiriant medi, gan osgoi llawer o fynd a dod rhwng safleoedd.

Mae’r hadau’n cael eu casglu fel rhan o Brosiect Cysylltiadau Gwyrdd a byddan nhw’n cael eu dosbarthu i dirfeddianwyr sy’n gweithio gyda’r prosiect i gynyddu bioamrywiaeth yn eu dolydd yn ogystal â rhai safleoedd cymunedol.  Mae hadau o darddiad lleol yn well o lawer na phrynu hadau sydd o bosibl wedi dod o rannau eraill o’r DU.  Mae’n bosibl bod isrywogaethau lleol wedi addasu’n well i’r amodau yn yr ardal hon.

Y farn oedd mai dôl Trewalkin oedd y safle hawsaf i roi cynnig arno gyntaf, gan fod y mynediad yn haws a gan fod y safle’n fwy gwastad.  Roedd angen dysgu sut i symud rampiau’r trelar o gwmpas i’w rhoi yn eu lle a dadlwytho’r ddau beiriant yn ddiogel.  Roedd hyn yn gryn her i ni gan fod y ddwy ohonon ni braidd yn fach!

Dôl fach, laith, llawn blodau ydy Dôl Trewalkin, wrth droed y Mynydd Du rhwng Llan-gors a Thalgarth.  Dyma sut olwg fyddai wedi bod ar gryn dipyn o Frycheiniog 100 mlynedd yn ôl, cyn colli’r cynefin oherwydd newidiadau mewn arferion ffermio.  Y blodau roedden ni’n gobeithio casglu hadau ohonyn nhw oedd y tegeirian brych a thegeirian coch y gwanwyn, y gribell felen, cribau San Ffraid, carpiog y gors, yr erwain a’r bwrned mawr.  Doedd tamaid y cythraul ddim yn barod eto felly gwnaethon ni osgoi’r clytiau lle roedd i’w gael yn fwyaf helaeth a byddwn ni’n dychwelyd i ddefnyddio dull casglu gwahanol.

Ar ôl ambell rediad i fyny ac i lawr y cae roedd gennon ni swm rhesymol o hadau.    Lledaenwyd nhw ar liain yn yr haul i sychu rhyw ychydig tra’n bod yn cael tamaid o ginio yn y cysgod cyn llwytho i fyny a symud ymlaen.

Mae dôl Cae Eglwys yn enghraifft dda arall o ddôl blodau gwyllt ond mae’n fwy anodd ym mhob agwedd ar gyfer y dasg hon.  Mae’n uwch i fyny ac yn eithaf sych mewn mannau, gyda golygfeydd ysblennydd o Fannau Brycheiniog.  Mae’r bengaled, effros blodau mawr, clychau’r eos a’r ystrewlys ymhlith y blodau sydd i’w cael yma.

Mae’r trac i’r ddôl yn arw iawn a’r fynedfa i’r cae yn un hynod anodd (peidiwch â cheisio defnyddio car i fynd yno!).  Fodd bynnag, gan ei bod mor sych roedd hi’n bosibl troi a dadlwytho y tu allan i’r warchodfa.  Roedd coesau caled y bengaled yn ei gwneud hi’n anodd gosod y peiriant medi ar lefel dda i gasglu’r planhigion a oedd y tyfu’n is.  Casglwyd mwy o lawer o sbwriel yn y broses ar y safle hwn. Ond mae modd ei hidlo allan.  Caiff yr ystrewlys ei gasglu’n ddiweddarach.

Welsh Government Logo

This project has received funding through the Welsh Government Rural Communities - Rural Development Programme 2014-2020, which is funded by the European Agricultural Fund for Rural Development and the Welsh Government.

Mae’r prosiect hwn wedi derbyn arian trwy Raglen Cymunedau Gwledig – Datblygu Gwledig 2014-2020 Llywodraeth Cymru, sy’n cael ei hariannu gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.