Heddiw, mae Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru yn cyhoeddi grant o £2.2 miliwn gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol i wella hygyrchedd a chynhwysiant Canolfan Bywyd Gwyllt Cymru i ymwelwyr wrth gynnig cyfleoedd gwell i ymgysylltu â chynulleidfaoedd ehangach. Mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol wedi dyfarnu grant o £90,000 i gefnogi gwaith y prosiect gyda chynulleidfaoedd a grwpiau newydd, gan feithrin cysylltiadau dwfn â byd natur i helpu tuag at adferiad byd natur ac ar gyfer y manteision iechyd a lles y mae byd natur yn eu cynnig.
Dywedodd Sarah Kessell, Prif Swyddog Gweithredol Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru: “Rydyn ni wrth ein bodd yn derbyn y gefnogaeth hon gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol a Chronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol. Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, fe allwn ni sicrhau bod pob un o’n hymwelwyr ni yng Nghanolfan Bywyd Gwyllt Cymru yn cael yr un cyfleoedd, bod persbectif pawb yn cael ei werthfawrogi a bod pawb yn cael eu hannog i gymryd rhan yn adferiad byd natur mewn ffyrdd sy’n addas iddyn nhw.”
Mae Canolfan Bywyd Gwyllt Cymru wedi'i lleoli yng Ngwarchodfa Natur Corsydd Teifi, y mae llawer ohoni wedi'i dynodi oherwydd ei phwysigrwydd i fywyd gwyllt. Mae'r warchodfa natur yn boblogaidd gyda thwristiaid ac ymwelwyr lleol, gan roi cyfle i bobl ddod yn agos at fywyd gwyllt o rwydwaith o guddfannau adar, llwybrau pren a llwybrau cerdded sy’n cynnwys llwybr Sustrans. Gall ymwelwyr weld amrywiaeth ehangach o adar gan gynnwys Glas y Dorlan, yn ogystal â Dyfrgwn, gweision y neidr a mursennod. Mae'r warchodfa natur yn ehangu felly yn y dyfodol bydd yn darparu mwy fyth o fynediad at fywyd gwyllt. Adeiladwyd y ganolfan ymwelwyr 30 mlynedd yn ôl ac enillodd ei dyluniad trawiadol Wobr RICS ond mae angen buddsoddiad bellach. Mae'r adeilad yn darparu cyfleusterau a lle i ddysgu am y warchodfa natur ac mae'n cael ei gefnogi gan dîm gwych o wirfoddolwyr.