Canolfan Bywyd Gwyllt Cymru; Diogelu'r dyfodol drwy Wytnwch a Chynhwysian

Canolfan Bywyd Gwyllt Cymru; Diogelu'r dyfodol drwy Wytnwch a Chynhwysian

Mae Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru wedi derbyn grantiau gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol a Chronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol i wneud Canolfan Natur Cymru yn brif ganolfan ymwelwyr yr Ymddiriedolaeth Natur ar gyfer hygyrchedd a chynhwysiant.

Heddiw, mae Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru yn cyhoeddi grant o £2.2 miliwn gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol i wella hygyrchedd a chynhwysiant Canolfan Bywyd Gwyllt Cymru i ymwelwyr wrth gynnig cyfleoedd gwell i ymgysylltu â chynulleidfaoedd ehangach. Mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol wedi dyfarnu grant o £90,000 i gefnogi gwaith y prosiect gyda chynulleidfaoedd a grwpiau newydd, gan feithrin cysylltiadau dwfn â byd natur i helpu tuag at adferiad byd natur ac ar gyfer y manteision iechyd a lles y mae byd natur yn eu cynnig.

Dywedodd Sarah Kessell, Prif Swyddog Gweithredol Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru: “Rydyn ni wrth ein bodd yn derbyn y gefnogaeth hon gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol a Chronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol. Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, fe allwn ni sicrhau bod pob un o’n hymwelwyr ni yng Nghanolfan Bywyd Gwyllt Cymru yn cael yr un cyfleoedd, bod persbectif pawb yn cael ei werthfawrogi a bod pawb yn cael eu hannog i gymryd rhan yn adferiad byd natur mewn ffyrdd sy’n addas iddyn nhw.”

Mae Canolfan Bywyd Gwyllt Cymru wedi'i lleoli yng Ngwarchodfa Natur Corsydd Teifi, y mae llawer ohoni wedi'i dynodi oherwydd ei phwysigrwydd i fywyd gwyllt. Mae'r warchodfa natur yn boblogaidd gyda thwristiaid ac ymwelwyr lleol, gan roi cyfle i bobl ddod yn agos at fywyd gwyllt o rwydwaith o guddfannau adar, llwybrau pren a llwybrau cerdded sy’n cynnwys llwybr Sustrans. Gall ymwelwyr weld amrywiaeth ehangach o adar gan gynnwys Glas y Dorlan, yn ogystal â Dyfrgwn, gweision y neidr a mursennod. Mae'r warchodfa natur yn ehangu felly yn y dyfodol bydd yn darparu mwy fyth o fynediad at fywyd gwyllt. Adeiladwyd y ganolfan ymwelwyr 30 mlynedd yn ôl ac enillodd ei dyluniad trawiadol Wobr RICS ond mae angen buddsoddiad bellach. Mae'r adeilad yn darparu cyfleusterau a lle i ddysgu am y warchodfa natur ac mae'n cael ei gefnogi gan dîm gwych o wirfoddolwyr.

An artist impression of the proposed changes to the Welsh Wildlife Centre. There are people of different ages, races and abilities in the image. 

An artist impression of the proposed changes to the Welsh Wildlife Centre - Childs Sulzman Architects.

Gweithiodd yr Ymddiriedolaeth gyda grwpiau cymunedol lleol i ddylunio prosiect sy'n cynnwys mwy o brofiadau awyr agored sy'n gysylltiedig â bywyd gwyllt, rhaglen ddysgu gymunedol sy'n cyfuno celfyddydau creadigol ac ecoleg, a gwelliannau ffisegol i'r ganolfan i gael gwared ar rwystrau mynediad, ei gwneud yn fwy cyfforddus ac ymgorffori cyfathrebu cynhwysol.

Mae'r Ymddiriedolaeth Natur eisiau gweld natur mewn adferiad felly maen nhw eisiau i bawb gael yr un cyfleoedd i brofi a mwynhau bywyd gwyllt, cymryd rhan a chyfrannu eu syniadau a'u hegni. Mae Canolfan Bywyd Gwyllt Cymru yn borth i dreftadaeth naturiol gwarchodfa natur Corsydd Teifi felly gwella mynediad a chynhwysiant yw’r flaenoriaeth.

Bydd Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru yn cynnal rhaglen o ddigwyddiadau drwy gydol y prosiect 3 blynedd hwn felly cadwch lygad ar ei gwefan a'i sianeli cyfryngau cymdeithasol.

Dywedodd Andrew White, Cyfarwyddwr Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol yng Nghymru: "Rydyn ni wrth ein bodd yn cefnogi'r gwaith o drawsnewid Canolfan Bywyd Gwyllt Cymru yn borth gwirioneddol gynhwysol i dreftadaeth naturiol Cymru. Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, bydd y buddsoddiad yma o £2.2 miliwn yn gwneud gwelliannau i'r ganolfan ymwelwyr, yn gwella hygyrchedd, ac yn datblygu rhaglenni wedi'u targedu i gyrraedd cynulleidfaoedd ehangach. Mae'r prosiect yma'n cynnig cyfle i oresgyn rhwystrau a chreu cysylltiadau dyfnach rhwng cymunedau amrywiol a bywyd gwyllt rhyfeddol Corsydd Teifi am genedlaethau i ddod."