Rydym Angen Eich Adborth

Rydym Angen Eich Adborth

Gina Gavigan

Mae Canolfan Bywyd Gwyllt Cymru a Gwarchodfa Natur Corsydd Teifi wedi derbyn grant gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol i ddylunio gwelliannau i'r Ganolfan Ymwelwyr ac i ehangu ein hymgysylltiad â'n cynulleidfa

Bydd yr arolwg hwn yn ein helpu i ddeall pwy sy'n ymweld â’r Ganolfan, profiad presenol a blaenorol o ymweld, a sut y gallwn wneud gwelliannau a fydd yn ymateb orau i anghenion ein cynulleidfaoedd. Dylai gymryd tua 15 i 20 munud i'w gwblhau. Ni fydd pob adran yn berthnasol i bawb, felly cwblhewch yr adrannau sy'n berthnasol i chi yn unig. Bydd unrhyw un sy'n cwblhau'r arolwg yn cael ei gynnwys mewn raffl am ddim i ennill un o dair gwobr – 2 daleb siopa £50 neu 1 x pryd o fwyd am ddim i ddau yn ein caffi. Bydd y raffl yn cael ei thynnu ar ddiwedd mis Mehefin 2024.

Gallwch fod yn sicr fod eich preifatrwydd yn bwysig i ni. Bydd unrhyw wybodaeth bersonol a ddarperir at ddibenion y raffl neu gyfathrebiadau yn y dyfodol yn cael ei dileu o'r data cyn ei dadansoddi, er mwyn sicrhau bod eich adborth yn ddienw. Bydd y wybodaeth a roddwch yn cael ei chadw gan Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru a'n gwerthuswyr annibynnol, Sue Davies ac Elinor Unwin. Bydd yn ddienw ac yn cael ei brosesu yn unol â pholisi preifatrwydd Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru, sydd ar gael ar eu gwefan.

Diolch yn ddiffuant am eich cydweithrediad ac am fod yn rhan o'n hymdrech gyfunol i wneud ein safle yn fwy pleserus fyth i bawb.

Online survey (English) 
Online survey (Welsh)

Heritage Lottery Logo for WWC