Dadansoddiad DNA Cyffrous wedi'i Gynllunio ar gyfer y Prosiect Gwiwerod Coch

Dadansoddiad DNA Cyffrous wedi'i Gynllunio ar gyfer y Prosiect Gwiwerod Coch

Red squirrel by Mark Hamblin/2020VISION

Dadansoddiad DNA Cyffrous wedi'i Gynllunio ar gyfer y Prosiect Gwiwerod Coch

Dadansoddiad DNA Cyffrous wedi'i Gynllunio ar gyfer y Prosiect Gwiwerod Coch

Mae Partneriaeth Gwiwerod Coch Canolbarth Cymru wedi bod yn monitro’r gwiwerod coch lleol ers bron i 20 mlynedd bellach, ond, dros y cyfnod hwn, ni fu erioed yn bosibl datblygu amcangyfrif poblogaeth dda. Yn y blynyddoedd cynnar, canolbwyntiwyd ar brofi bod gwiwerod coch yn dal i oroesi yma, nad oedd yn dasg hawdd yn y dyddiau cyn camerâu llwybr! Y gwiwerod coch yma yng Nghanolbarth Cymru yw’r unig boblogaeth ar ôl yng Nghymru sydd ddim wedi cael unrhyw gefnogaeth trwy ailgyflwyniadau. Mae hyn yn golygu ei bod yn hanfodol bwysig cadw llygad barcud ar y boblogaeth i sicrhau nad yw'n dirywio, ac i helpu i arwain ein gwaith cadwraeth yn y dyfodol.

Nod y prosiect Gwiwerod Coch Iach, a ddechreuodd yn 2019 ac sy'n rhedeg tan 2022, oedd dysgu sut mae'r gwiwerod coch yn teithio ac yn defnyddio prif safle gwiwerod coch canolbarth Cymru, ond oherwydd ôl-effeithiau'r pandemig, nid yw hyn yn bosibl mwyach o fewn yr amser sydd ar gael. Fodd bynnag, rydym wrth ein bodd bod cynllun prosiect amgen wedi'i gymeradwyo gan ein cyllidwyr, Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol a grantiau WCVA/y Dreth Gwarediadau Tirlenwi, sy'n dechrau nawr.

Yn lle asesu sut mae'r gwiwerod coch yn gwneud trwy olrhain unigolion ar draws y prif safle, byddwn yn dal y gwiwerod mewn mwy o leoliadau yn lle hynny, ac yn cymryd samplau gwallt (o dan drwydded gan Gyfoeth Naturiol Cymru (CNC)) a anfonir at Adran Biowyddorau Prifysgol Abertawe i'w dadansoddi. Bydd y tîm, sy'n cynnwys yr Athro Sonia Consuegra, yr Athro Carlos Garcia de Leaniz, a'r Athro Luca Borger, yn dadansoddi DNA'r gwiwerod coch o'r samplau gwallt hyn.

Nid yw dadansoddi DNA gwiwerod coch yng Nghanolbarth Cymru yn newydd, ond yr hyn sy'n newydd yw lefel y dadansoddiad y byddwn yn ei wneud. Yn flaenorol, mae dadansoddiad ond wedi ei gynnal i lefel haploteip, sy'n dangos y grwpiau genetig eang, ond nid manylion mwy manwl. Gallwch ddarllen mwy am ein gwaith blaenorol yma [https://midwalesredsquirrels.org/work/genetic-research/ ]. Y gwahaniaeth y tro hwn, yw y byddwn yn mynd â'r dadansoddiad DNA i lefel ddyfnach. Efallai eich bod chi'n gyfarwydd â phrofion DNA y gellir eu gwneud ar bobl i ddod o hyd i berthnasau - bydd hyn yn debyg i raddau. Trwy edrych ar radd perthynas unigolion, gallwn ddatblygu dealltwriaeth lawer well o ddeinameg y boblogaeth yma yng Nghanolbarth Cymru.

Er enghraifft, os cymerwn samplau gwallt o wiwer ym Mryn Arau Duon, a chanfod ei bod yn berthynas agos i wiwer rydym wedi cymryd sampl gwallt ohoni yng Nghlywedog, byddwn yn gwybod bod y gwiwerod coch wedi gallu teithio rhwng yr ardaloedd hyn i gael mynediad at gyfleoedd bridio, yn ddiweddar o leiaf. Yn yr un modd, os gwelwn fod gan y gwiwerod yng Nghlywedog berthynas bell iawn â'r rhai yn Irfon, gallai ddangos nad yw'r cysylltedd cynefin yn ddigon da i ganiatáu i'r gwiwerod hyn fridio, ac efallai dangos bod y gwiwerod yn bodoli fel poblogaethau ynysig.

Bydd hyn i gyd yn dibynnu ar faint o wiwerod rydyn ni'n eu dal, a lefel y dadansoddiad sy'n bosibl. Fodd bynnag, mae'r math hwn o ddadansoddiad yn hynod werthfawr ac rydym yn gyffrous iawn i ddarganfod mwy o wybodaeth hanfodol am sut mae'r boblogaeth yn gwneud. Bydd y wybodaeth hon yn llywio ein gwaith yn y dyfodol.