“Rydw i’n gallu clywed un draw fan acw… mae'n cnoi ar lystyfiant. Mae cymaint o arwyddion o'u gweithgarwch ar hyd yr afon… edrychwch ar yr olion traed a'r tyllau yma yn y glannau,” meddai Alice Chapman, Swyddog Cadwraeth gydag Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru, wrth gynnal arolwg o Lygod Pengrwn y Dŵr ar hyd yr afon.
Mae Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru (YNDGC), Ymddiriedolaeth Afonydd De Ddwyrain Cymru (SEWRT), y Fenter ar gyfer Cadwraeth Natur Cymru (INCC), Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), a phrosiect Adfer Tirwedd y Ddawan Cyngor Bro Morganwg, gyda pherchnogion tir lleol, yn cydweithio i ddod â Llygod Pengrwn y Dŵr yn ôl i Fro Morganwg.
Mae'r arolwg yma’n dilyn rhyddhau 200 o Lygod Pengrwn y Dŵr a fagwyd mewn caethiwed ym mis Awst y llynedd, gan nodi eu dychweliad i Afon Ddawan ar ôl absenoldeb o 20 mlynedd. Er eu bod yn anifeiliaid swil, mae digon o arwyddion eu bod yn gwneud yn dda ac wedi ymledu o'u safle rhyddhau gwreiddiol ar hyd Afon Ddawan.