Dathlu Diwrnod Shwmae Su'mae - Celebrating Shwmae Su'mae Day

Dathlu Diwrnod Shwmae Su'mae - Celebrating Shwmae Su'mae Day

Yn Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru, rydym yn angerddol am ddefnyddio'r Gymraeg i gysylltu pobl â bywyd gwyllt Cymru. Beth bynnag yw eich gallu, mae gennym amrywiaeth o ddigwyddiadau lle gallwch ddysgu mwy am fywyd gwyllt lleol yn Gymraeg.

Cerdded, Coffi a Chlonc yng The Welsh Wildlife Centre

Dewch i ymarfer siarad a dysgu am natur yn ein Gwarchodfa Natur Corsydd Teifi. Mae'r teithiau cerdded am ddim hyn yn cael eu cynnal bob mis. Mae gan bob taith thema wahanol o flodau'r gwanwyn i aeron yr hydref. Dilynir pob taith gerdded gan gacen a phaned yn ein Caffi Glasshouse.

Am fwy o wybodaeth neu archebu, cysylltwch â g.taylor@welshwildlife.org.

Taith Gerdded Dywys i Ddysgwyr Cymraeg ar Ynys Sgomer

Ymunwch â Mari Elin a Gruffydd Jones ar gyfer ein Teithiau Cerdded Tywys i Ddysgwyr Cymraeg yn 2024! Mae’r ynys yn gyfle perffaith i ymarfer eich Cymraeg a dysgu enwau bywyd gwyllt gwych ar hyd y daith! Mae'r teithiau cerdded hyn yn cael eu cynnal Dydd Llun 22ain Gorffennaf a dydd Llun 19eg Awst 2024. Mae tocynnau'n costio £30 a sylwch y bydd ffi cwch ychwanegol o £20 yn berthnasol.

Mae archebu yn agor ddydd Llun 4 Rhagfyr. I archebu lle, ffoniwch: 01656 724100. Sylwch fod y Swyddfa Archebu ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener, 9:00 – 16:30.

Ymarfer Cymraeg ym Mwlch Crymlyn

Ymunwch â'n Swyddog Natur Nextdoor ym Mwlch Crymlyn ar 4 Tachwedd 2023 am daith gerdded am ddim gyda Menter Iaith Abertawe. Byddwn yn cerdded trwy’r natur yn glywed amdano’r bywyd gwyllt ac unigrhyw sy’n byw ar y Cors. Mae'r digwyddiad yn gyfeillgar i deuluoedd. Mae’r cerdd mewn partneriad gyda prosiect LIFEquake gan Cyfoeth Naturiol Cymru.

Am fwy o wybodaeth neu archebu, cysylltwch â m.evans@welshwildlife.org