Bioblitz at Llanwrtyd Wells

Bioblitz at Llanwrtyd Wells

On 31st May the Dolwen Fields - Recreation For All community group together with the The Wildlife Trust of South and West Wales (WTSWW) organised a wildlife Bioblitz!

Scroll to the bottom for Welsh translation

Over 50 people came to Dolwen Fields, Llanwrtyd Wells. Green Connections Powys were supported by the Biodiversity Information Service (BIS) and the Mid Wales Red Squirrel Project. Green Connections Powys project involves the three Powys wildlife trusts (WTSWW, RWT, MWT) helping community groups, small businesses, landowners and councils throughout Powys take action to address climate change and biodiversity loss.

Local residents put out light traps in their gardens the night before, which caught a number of moths including White Ermine (topical for the Platinum Jubilee).  Creatures not normally seen were found in the river.  Highlights were a Stone Loach fish, dragonfly larvae and river skaters.  Bugman, Phil Ward, led an expedition to find lots of flying bugs with nets bigger than some of the children!  Recording experts looked for plants, lichens, fungi and mosses.  The children did wildlife themed craft activities, helped to build a huge bug hotel and made promises to help nature for #30dayswild.

The community group have been working to make the field more accessible for people and encourage wildlife.  An accessible path encircles the rugby field and community members are growing vegetables.  The sensory garden has many plants for pollinators.  Trees have been planted and a wildflower area behind the pavilion took a while to establish and is now showing promise.  The Green Connections team gave some advice on how to maintain this.

bioblitz

Ben Mullen from BIS said ‘Thank you to everyone for your help seeking out wildlife.  There were only two wildlife records on the database for Dolwen Fields before this event so all of these discoveries are new species. Wildlife Records like these helps us to put wildlife on the map so we know what lives where.’

bumblebee
Welsh government logo

The project has received funding through the Welsh Government Rural Communities - Rural Development Programme 2014-2020, which is funded by the European Agricultural Fund for Rural Development and the Welsh Government.

Cannoedd o gofnodion newydd wedi’u hychwanegu at y gronfa ddata bioamrywiaeth ar gyfer Llanwrtyd 

Ar 31ain Mai, cynhaliwyd Bioblits bywyd gwyllt roedd grŵp cymunedol Dolwen – Hamdden i Bawb, ynghyd ag Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru (WTSWW), wedi’i drefnu!

Daeth dros 50 o bobl i Ddolwen, Llanwrtyd. Bu Gwasanaeth Gwybodaeth Bioamrywiaeth (BIS) a Phrosiect Gwiwerod Coch Canolbarth Cymru yn cefnogi Cysylltiadau Gwyrdd Powys. Mae prosiect Cysylltiadau Gwyrdd Powys yn cynnwys tair ymddiriedolaeth natur Powys (WTSWW, RWT, MWT) i helpu grwpiau cymunedol, busnesau bach, tirfeddianwyr a chynghorau ledled Powys i gymryd camau i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd a cholli bioamrywiaeth.

Gosododd trigolion lleol drapiau golau yn eu gerddi y noson gynt, a ddaliodd nifer o wyfynod, gan gynnwys yr Ermin Gwyn (yn amserol ar gyfer y Jiwbilî Platinwm).  Daeth creaduriaid nad ydyn ni’n eu gweld fel rheol i’r golwg yn yr afon.  Pysgodyn y Gwyniad Barfog, larfâu gwas y neidr a rhianedd y dŵr oedd yr uchafbwyntiau.  Bu’r Dyn Pryfed, Phil Ward, yn arwain ymdaith i ddod o hyd i lond gwlad o bryfed hedfan, gyda rhwydi a oedd yn fwy na rhai o’r plant.   Bu arbenigwyr cofnodi’n chwilio am blanhigion, cennau, ffyngau a mwsoglau.  Bu’r plant yn gwneud gweithgareddau crefftau ar thema bywyd gwyllt, yn helpu i adeiladu gwesty pryfed anferthol ac yn gwneud addewidion i helpu natur am #30DiwrnodGwyllt.

Mae’r grŵp cymunedol wedi bod yn gweithio i wneud y ddôl yn fwy hygyrch i bobl ac i annog bywyd gwyllt.  Mae llwybr hygyrch yn mynd o amgylch y cae rygbi ac mae aelodau o’r gymuned yn tyfu llysiau.  Mae gan yr ardd synhwyraidd lawer o blanhigion ar gyfer peillwyr.  Mae coed wedi’u plannu a chymerodd ardal blodau gwyllt y tu ôl i’r pafiliwn gryn amser i ymsefydlu ond mae nawr yn edrych yn addawol.  Bu’r tîm Cysylltiadau Gwyrdd yn rhoi rhywfaint o gyngor ar sut i gynnal a chadw hon.

Meddai Ben Mullen o BIS: ‘Diolch yn fawr i bawb am eich help i chwilio am fywyd gwyllt.  Dim ond dau gofnod bywyd gwyllt oedd ar y gronfa ddata ar gyfer Dolwen cyn y digwyddiad hwn, felly mae pob un o’r darganfyddiadau hyn yn rhywogaethau newydd. Mae Cofnodion Bywyd Gwyllt fel y rhain yn ein helpu i roi bywyd gwyllt ar y map fel ein bod yn gwybod beth sy’n byw ymhle.’

Mae’r prosiect wedi derbyn arian trwy Raglen Cymunedau Gwledig – Datblygu Gwledig 2014-2020 Llywodraeth Cymru, sy’n cael ei hariannu gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.