Llwybr Sain Gwiwerod Coch

Red squirrel (Sciurus vulgaris) jumping, Cairngorms National Park, Scotland. - Peter Cairns/2020VISION

Llwybr Sain Gwiwerod Coch

Ymunwch ag Iolo Williams am antur sain y wiwer goch!

Archwiliwch ein Llwybr Gwiwerod Coch newydd trwy Goedwig brydferth Tywi a thu hwnt! Bydd ein taith sain, adroddir gan y naturiaethwr a’r cyflwynydd Cymreig Iolo Williams, yn eich tywys ar hyd y llwybr. Gallwch wrando a dysgu am yr ardal a’n gwaith cadwraeth gwiwerod coch yng Nghanolbarth Cymru. Gallech chi fwynhau'r daith gydag ein fersiwn fideo!

Filmed & edited by Grace Hunt 

Mae’r daith

Mae’r daith yn 5km o hyd ac mae’r lefel anhawster rhwng cymedrol-ymdrechgar ac yn cymryd 1-2 awr. Mae rhannau o'r llwybr yn fwdlyd, serth, ac anwastad, felly gall fod yn anaddas i blant ifanc neu bobol sydd symudedd cyfyngedig.  

A map showing the 9 points of the red squirrel trail

Sut i gymryd man 

1.  Lawrlwytho’r ffeiliau sain. Mae naw pennod wahanol i wrando arnynt ar naw pwynt ar hyd y llwybr. 

2. Cymerwch sgrînlun o'r map a phwyntiau llwybr isod. 

3. Ewch i Ystrad Fflur i ddechrau'r daith. Mae parcio am ddim ar gael ar safle. 

4. Cerdded i bwynt 1 a dechrau gwrando!

Llwybr Sain Gwiwerod Coch

Pwyntiau Llwybr 

Dilynwch y cyfarwyddiadau isod i gwblhau ein Llwybr Sain Gwiwerod Coch.

Dechreuwch gan barcio yn Abaty Ystrad Fflur (Abbey Rd, Ystrad Fflur, Ystrad Meurig SY25 6ES). 

Bwynt 1. Ewch nôl rownd yr adeiladau ar y ffordd a throwch i’r chwith drwy’r giât i fyny wrth ymyl y nant. Gwrandewch ar Bwynt 1 yma. Wedyn, dilynwch y trac rhwng y nant a’r wal nes cyrraedd pont droed bren (fe all y darn yma fod yn eithaf gwlyb).

Bwynt 2: Gwrandewch ar Bwynt 2 yma, wedyn croeswch y bont a dilyn y nant gan ei chadw ar eich chwith nes ei bod yn canghennu. Dilynwch y llwybr marchogaeth i fyny’r allt at giât.

Bwynt 3: Dechreuwch wrando ar Bwynt 3 yma wedyn ewch drwy’r giât a dilyn y llwybr marchogaeth ar draws y tir agored (fe all y darn yma fod yn eithaf corsiog) nes i chi gyrraedd giât arall sy’n mynd â chi yn ôl i mewn i goetir.

Bwynt 4: Ewch drwy’r giât a dilyn y llwybr i fyny i’r goedwig, gwrando ar Bwynt 4 tra boch chi’n cerdded. Pan gyrhaeddwch chi’r trac, trowch i’r chwith a’i ddilyn nes gwelwch chi lwybr yn mynd i fyny ar y dde (byddwch yn ailymuno â’r trac yma yn nes ymlaen). 

Bwynt 5: Cewch seibiant ar ben y bryn i wrando ar Bwynt 5, wedyn dilynwch y llwybr marchogaeth allan o’r goedwig a throwch i’r dde, gan fynd yn ôl i’r goedwig i ailymuno â’r trac. Trowch i’r chwith.

Bwynt 6: Dilynwch y llwybr troed i’r chwith, lawr yr allt i’r coed oddi ar drac y fforest. Fe ddowch chi at groesfan dau lwybr, arhoswch yma i wrando ar Bwynt 6. Wedyn ewch yn syth yn eich blaen yma nes cyrraedd giât bren sy’n mynd â chi allan o’r fforest. Trowch i’r dde wrth y giât a dilyn y ffens, gan ei chadw ar y dde i chi. Ewch drwy giât arall ger coeden dderwen fawr a dilyn linell y ffens i lawr yr allt, gan ei chadw ar y chwith i chi nawr nes cyrraedd giât arall.

Bwynt 7: Rydych chi nawr ym mhen uchaf coedwig gymunedol Coed y Bont. Gwrandewch ar Bwynt 7 yma. Mae nifer o lwybrau drwy’r coed, fe allwch chi naill ai ddilyn y prif lwybr i lawr yr allt o’ch blaen, neu ddilyn y llwybr i lawr yr allt i’r dde ac archwilio drwy’r coed. Mae’r llwybrau yma’n cyfarfod ei gilydd yn is i lawr yn y goedwig, ychydig cyn pwynt gwybodaeth olaf y llwybr yma.

Bwynt 8: Pa lwybr bynnag fyddwch chi’n ei gymryd, byddwch chi yn y pen draw ar y prif lwybr. Gwrandewch ar y glip olaf (Pwynt 8) tra boch chi’n cerdded. Trowch i’r dde ar y trac o amgylch rhan isaf Coed y Bont I fynd allan o’r coed, tuag at y ffordd. 

Bwynt 9: O’r fan yma fe allwch chi droi i’r dde i’r ffordd a cherdded yn ôl i Abaty Ystrad Fflur.

Heritage fund logo

Mae Prosiect Gwiwerod Coch Canolbarth Cymru yn cael ei redeg gan Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru. Nod y prosiect yw darganfod mwy am boblogaeth fregus gwiwerod coch yng Nghanolbarth Cymru. Mae'r prosiect wedi'i alluogi diolch i ddyfarniad o £247,100 gan Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol.