Swyddog Allgymorth ac Ymgysylltu (Siaradwr Cymraeg)

Swyddog Allgymorth ac Ymgysylltu (Siaradwr Cymraeg)

Diwrnod cau:
Cyflog: £26,500
Math y cytundeb: Cyfnod penodol / Oriau gweithio: Llawn amser
Lleoliad:
Cilgerran, The Welsh Wildlife Centre, Cilgerran, Pembrokeshire. SA43 2TB
Rydyn ni eisiau penodi Swyddog Allgymorth ac Ymgysylltu i ymgysylltu ag ystod ehangach o gynulleidfaoedd amrywiol nag erioed o'r blaen, gan ddatblygu partneriaethau, meithrin ymddiriedaeth, a chyd-greu digwyddiadau a gweithgareddau arloesol sy'n defnyddio darparwyr gweithgareddau allanol yn ogystal â sgiliau mewnol. Mae eich rôl yn cynnwys gweithio gyda'n cynulleidfa ni i ddeall y mathau o ddigwyddiadau a gweithgareddau a fydd yn apelio atynt, gan ddangos creadigrwydd a dawn wrth gyflwyno a chynllunio'r logisteg. Bydd y rhaglen yn cwmpasu rhai dyddiau'r wythnos, penwythnosau a gwyliau banc ac yn cynnig amrywiaeth o weithgareddau sy'n canolbwyntio ar fywyd gwyllt, y celfyddydau a lles.

Mae Canolfan Bywyd Gwyllt Cymru yng Nghorsydd Teifi yn adeilad arobryn sydd wedi bod yn croesawu ymwelwyr i warchodfa natur Corsydd Teifi i ddysgu am fywyd gwyllt a'i fwynhau ers 1994. Yn ddiweddar, rydyn ni wedi sicrhau grantiau sylweddol gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol a Chronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol i wella hygyrchedd a chynhwysiant.

Rydyn ni wedi ymrwymo i roi cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant wrth galon yr Ymddiriedolaethau Natur, er mwyn sicrhau bod pawb yn cael y cyfle i brofi llawenydd bywyd gwyllt yn eu bywydau bob dydd.

Croesewir ceisiadau am swyddi drwy gyfrwng y Gymraeg, ac ni fyddant yn cael eu trin yn llai ffafriol na'r rhai a gyflwynir yn Saesneg. Cynhelir y cyfweliad yn y Gymraeg ac yn Saesneg a bydd yn cynnwys asesiad o'ch sgiliau siarad Cymraeg.

Fel cyflogwr sy'n Hyderus o ran Anabledd, rydym wedi ymrwymo i gynnig cyfweliad i unrhyw un sydd ag anabledd sy'n bodloni'r holl feini prawf hanfodol ar gyfer y swydd. Rhowch wybod i ni os oes arnoch chi angen unrhyw addasiadau i wneud ein proses recriwtio yn fwy hygyrch.

Cyflwynwch geisiadau ac ymholiadau i info@welshwildlife.org a defnyddiwch deitl y swydd yn y llinell bwnc. Os oes angen i chi gyflwyno eich cais mewn fformat gwahanol, rhowch wybod i ni.  Cyflwynwch y rhestr wirio Gymraeg hefyd.

Dyddiad cau: Hanner dydd ar ddydd Gwener 24fed Hydref

Cyfweliadau: Dydd Lau 6fed Tachwedd 

Anfonir y gwahoddiad i gyfweliad at yr ymgeiswyr sydd wedi cyrraedd y rhestr fer erbyn 5pm ar ddydd Lau 30fed Hydref