Swyddog Allgymorth ac Ymgysylltu (Siaradwr Cymraeg)
Mae Canolfan Bywyd Gwyllt Cymru yng Nghorsydd Teifi yn adeilad arobryn sydd wedi bod yn croesawu ymwelwyr i warchodfa natur Corsydd Teifi i ddysgu am fywyd gwyllt a'i fwynhau ers 1994. Yn ddiweddar, rydyn ni wedi sicrhau grantiau sylweddol gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol a Chronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol i wella hygyrchedd a chynhwysiant.
Rydyn ni wedi ymrwymo i roi cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant wrth galon yr Ymddiriedolaethau Natur, er mwyn sicrhau bod pawb yn cael y cyfle i brofi llawenydd bywyd gwyllt yn eu bywydau bob dydd.
Croesewir ceisiadau am swyddi drwy gyfrwng y Gymraeg, ac ni fyddant yn cael eu trin yn llai ffafriol na'r rhai a gyflwynir yn Saesneg. Cynhelir y cyfweliad yn y Gymraeg ac yn Saesneg a bydd yn cynnwys asesiad o'ch sgiliau siarad Cymraeg.
Fel cyflogwr sy'n Hyderus o ran Anabledd, rydym wedi ymrwymo i gynnig cyfweliad i unrhyw un sydd ag anabledd sy'n bodloni'r holl feini prawf hanfodol ar gyfer y swydd. Rhowch wybod i ni os oes arnoch chi angen unrhyw addasiadau i wneud ein proses recriwtio yn fwy hygyrch.
Cyflwynwch geisiadau ac ymholiadau i info@welshwildlife.org a defnyddiwch deitl y swydd yn y llinell bwnc. Os oes angen i chi gyflwyno eich cais mewn fformat gwahanol, rhowch wybod i ni. Cyflwynwch y rhestr wirio Gymraeg hefyd.
Dyddiad cau: Hanner dydd ar ddydd Gwener 24fed Hydref
Cyfweliadau: Dydd Lau 6fed Tachwedd
Anfonir y gwahoddiad i gyfweliad at yr ymgeiswyr sydd wedi cyrraedd y rhestr fer erbyn 5pm ar ddydd Lau 30fed Hydref