Prosiect Rhwydweithiau Natur ar Benrhyn Gŵyr yn symud yn ei flaen!

Prosiect Rhwydweithiau Natur ar Benrhyn Gŵyr yn symud yn ei flaen!

Mae’r prosiect Rhwydweithiau Natur wedi dechrau yng ngwarchodfeydd natur yr Ymddiriedolaeth Natur ar Benrhyn Gŵyr. Dyma ddiweddariad am holl weithgarwch y prosiect gan Paul Thornton, Rheolwr Gwarchodfeydd YNDGC.

AVT newydd
Er mwyn galluogi gwaith ar draws ein gwarchodfeydd natur yn SoDdGA Gŵyr mae’r prosiect wedi ariannu ac rydym wedi derbyn cerbyd pob tir (ATV) newydd. Mae hyfforddiant cymhwysedd yn cael ei drefnu ar gyfer y defnyddwyr sydd ei angen. Gallwn ddisgwyl i'r Honda Pioneer yma ein helpu ni i gwblhau gwaith yn ddiogel am flynyddoedd lawer i ddod.

Rheoli Coetiroedd
Drwy'r prosiect byddwn hefyd yn gwneud gwaith yn ein coetiroedd ynn arfordirol yng Nghlogwyn Redley a Thrwyn Porth Eynon. Llwyddwyd i ddechrau ar y gwaith yma yng Nghlogwyn Redley ychydig cyn i adar yn nythu atal y gwaith ar y cynefin.

Adfer Cyflwr yr Arfordir a Phori ar Drwyn Porth Eynon
Elfen fawr arall o’r prosiect yw adfer y rhostir arfordirol a sefydlu pori ar Drwyn Porth Eynon. Yn y cyfnod paratoi roedd hyn yn cynnwys ymchwilio i fynediad addas, agor trac a ddefnyddiwyd ddiwethaf yn y 1950au, a chanfod a chlirio llinellau addas ar gyfer ffensio. Er mwyn sicrhau nad yw nodweddion y SoDdGA a chynefinoedd bregus yn cael eu difrodi, penderfynwyd cwblhau'r gwaith yn fewnol gyda'r staff a'r timau gwirfoddol yn gwneud llawer o'r gwaith. Mae gennym lawer i’w wneud eto, 815 metr i fod yn fanwl gywir, ond mae'r giât gyntaf wedi'i gosod yn ei lle. Yn ôl y disgwyl gyda chynlluniau uchelgeisiol, does dim modd rhagweld popeth. Fe welson ni bod angen atgyweirio darnau o wal gerrig i ddechrau cyn gosod y giât yn ei lle.   
 

Bydd cronfa grant £500,000 y Rhwydweithiau Natur yn cefnogi dau brosiect gan YNDGC, sef prosiect morol ‘Gwarcheidwaid y Môr’ a phrosiect ar y tir, ‘Cysylltu’r Dyfodol’, tan fis Mawrth 2023. Mae’r Gronfa Rhwydweithiau Natur yn cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru a’i gweinyddu gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol yng Nghymru.