Diweddariad Morol y Gronfa Rhwydweithiau Natur

Diweddariad Morol y Gronfa Rhwydweithiau Natur

Cynhyrfu’r dyfroedd gyda'n diweddariad prosiect morol ac ynysoedd fel rhan o Gronfa Natur Drws Nesaf (NNF)!

Diweddariad ar Brosiect Ynysoedd a Morol

Mae ein timau ynysoedd a morol yn Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru (YNDGC) wedi bod yn gwneud cynnydd gwych gyda’n prosiect Cronfa Rhwydweithiau Natur yn ystod y 6 mis diwethaf, mae’r gwaith hwn yn cynnwys monitro’r poblogaethau adar môr o bwysigrwydd rhyngwladol yn Ardal Warchodaeth Arbennig Sgomer a Sgogwm yn flynyddol, gan gyfrif mwy na hanner miliwn o unigolion o 12 o rywogaethau!

Natur i Bawb: Diweddariad EDI

Mae gwyntoedd newid wedi bod yn chwythu’n gryf yn ystod yr haf a’r hydref yma wrth i’n hymrwymiad ni i Gydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant (EDI) ar Ynys Sgomer gydio!

Ym mis Awst a mis Medi gwelwyd ffrwyth ein rhaglen uchelgeisiol o ddigwyddiadau EDI, dan arweiniad Swyddog Ymwelwyr a Warden Cynorthwyol yr ynys. Roedd y cyrsiau hyn nid yn unig yn llawn gwybodaeth ac yn addysgiadol ond hefyd yn llawn hwyl, gan groesawu 32 o adarwyr ifanc brwdfrydig ochr yn ochr â 14 o gyfranogwyr o’r Elusen Black2Nature

Yr hyn wnaeth y fenter hon yn fwy effeithiol fyth oedd ein gallu newydd ni i ariannu hyfforddiant i wirfoddolwyr a rhoi offer awyr agored a chychod arbenigol iddyn nhw. Mae'r newid yma wedi goresgyn rhwystrau ariannol a allai fod wedi atal unigolion rhag ymuno â ni ar Sgomer a Sgogwm yn y gorffennol. Nawr, gall ystod fwy amrywiol o unigolion gael mynediad i'n prosesau recriwtio, gan gyfrannu eu safbwyntiau unigryw a'u hangerdd dros gadwraeth.

Ond nid dyna'r cyfan. Mae ein hymrwymiad ni i gefnogi’r genhedlaeth nesaf o gadwraethwyr yn parhau’n ddiwyro. Fe wnaethom ddarparu cyfnodau preswyl wedi’u hariannu ar Ynysoedd Sgomer a Sgogwm i bedwar cadwraethwr o dan 25 oed ar ddechrau eu gyrfa yn ystod rhan olaf tymor yr adar môr, o fis Gorffennaf i fis Medi. Mae'r buddsoddiad yma yn eu twf a'u datblygiad yn fuddsoddiad yn nyfodol cadwraeth ei hun.

Er bod ein ffocws ni ar gynhwysiant a grymuso wedi cynyddu ar yr ynysoedd, mae ein hymdrechion ni wedi ymestyn y tu hwnt i hynny, gan gyrraedd glannau Canolfan Bywyd Gwyllt Morol Bae Ceredigion. Mae ein drysau ni ar agor yn eang, gan gynnig cyfleoedd gwirfoddoli lleol a thymhorol i unrhyw un sy'n awyddus i gyfrannu at ymdrechion cadwraeth forol.

Mae ein camau ni ymlaen tuag at gymuned gadwraeth fwy cynhwysol ac amrywiol nid yn unig yn ganmoladwy ond hefyd yn hanfodol. Drwy gael gwared ar rwystrau ariannol, darparu cyfleoedd addysgol, a chroesawu unigolion o bob cefndir, rydyn ni’n meithrin amgylchedd o angerdd ac ymroddiad diderfyn i gadwraeth. Gyda’n gilydd, rydyn ni’n adeiladu dyfodol cryfach, gwydnach ar gyfer ein bywyd gwyllt a’n planed ni.

Dywedodd Lisa Morgan, y Pennaeth Ynysoedd a Morol, “Rydyn ni’n hynod falch o’n rhaglen digwyddiadau EDI ar Sgomer, sy’n dilyn y model a osodwyd gan y tîm yng Nghanolfan Bywyd Gwyllt Morol Bae Ceredigion. Rydyn ni wedi croesawu adarwyr ifanc a grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol i’r ynys ac wedi helpu i wneud cyfleoedd gwirfoddoli yn fwy hygyrch a fforddiadwy i ecolegwyr ar ddechrau eu gyrfa.”

Black2Nature on Skomer

Skomer Island / WTSWW

Plymio i'r Dyfnderoedd: Diweddariad Acwsteg ac Adnabod Dolffiniaid.

Yn nyfroedd Bae Ceredigion, mae llawer iawn o weithgarwch wedi bod yn digwydd wrth i dîm morol Bae Ceredigion dracio a monitro’r bywyd gwyllt morol amrywiol sydd ar lannau Cymru.

Dywedodd Lisa Morgan, y Pennaeth Ynysoedd a Morol yn YNDGC, “Mae ein prosiectau monitro ac ymchwil arloesol ni i adnabod ffotograffau a acwsteg Dolffiniaid Trwyn Potel yn ACA Bae Ceredigion wedi parhau i ennill momentwm, gyda staff allan ar gychod pan mae’r tywydd ac amodau’r môr yn caniatáu.”

Mae rhai o uchafbwyntiau’r prosiect morol yn ystod yr haf a dechrau’r hydref yn cynnwys…

  • Mae adnabod ffotograffau dolffiniaid trwyn potel a chasglu data acwsteg yn parhau ochr yn ochr â chofnodi gweld bywyd gwyllt morol arall yn ystod arolygon.
  • Gwnaed 19 awr 03 munud o recordiadau wrth fynd ati’n benodol i ddilyn dolffiniaid trwyn potel fel rhan o arolygon cychod. Mae’r dadansoddi data yn parhau.  Cafwyd 30 o gyfarfyddiadau adnabod ffotograffau o ddolffiniaid trwyn potel – mae’r dadansoddi ffotograffau yn parhau.
  • Yng nghanol ein ffocws ar y dolffiniaid, rydyn ni hefyd wedi bod yn gwrando’n astud ar y byd tanddwr. Mae dau recordydd acwstig statig sydd wedi’u lleoli mewn gwahanol safleoedd ym Mae Ceredigion wedi bod yn glustiau i ni o dan y tonnau, gan gofnodi’r symffoni o synau sy’n atseinio yn y dyfnderoedd. Mae'r data clywedol yma’n cynnwys cliwiau gwerthfawr am gyfathrebu ac ymddygiad gwahanol fathau o fywyd morol.
  • Mae’r Pennaeth Ynysoedd a Morol yn anfon adroddiadau cadwraeth yn fisol i Lywodraeth Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru am gynnydd tymor yr adar môr. Mae’r adborth yma wedi cael ei ffurfioli yn ystod pandemig HPAI gyda gweithgor adar môr arbenigol, brys ychwanegol wedi’i sefydlu ac yn cyfarfod yn wythnosol ar adegau yn ystod haf 2023, gyda’r Pennaeth Ynysoedd a Morol a Warden Sgomer yn bresennol.
  • Cyfarfod o Bwyllgor Ymgynghorol Cadwraeth yr Ynysoedd ar 10 Awst i drafod canlyniadau rhagarweiniol y tymor monitro adar môr. Trafodwyd hefyd yng nghyd-destun problemau morol ehangach gydag effeithiau posibl ar niferoedd yr adar môr a’u llwyddiant magu: tywydd poeth morol a HPAI.
  • Mae monitro’r adar môr ar y ddwy ynys wedi ein galluogi ni i dracio cyflwr ein nodweddion adar môr yn 2023. Mae hyn wedi bod yn arbennig o bwysig gyda’r marwolaethau torfol oherwydd y Ffliw Adar sydd wedi digwydd ym mhoblogaethau’r gwylogod yn ne Cymru ym mis Gorffennaf 2023.
CBMWC Nature Networks Fund Project Marine Update

CBMWC Research

Mae’r rhagolygon ar gyfer y ddwy flynedd nesaf a’r cynnydd y gallwn ei wneud gyda chymorth y cyllid hwn gan y Gronfa Rhwydweithiau Natur (NNF) yn gyffrous iawn i ni i gyd.

#NatureNetworksFund #CronfaRhwydweithiauNatur