Rheolwr Masncho

Rheolwr Masncho

Diwrnod cau:
Cyflog: £37,000-39,000
Math y cytundeb: Parhaol / Oriau gweithio: Llawn amser
Lleoliad:
Welsh Wildlife Centre, Fountain Road, Tondu, Bridgend, CF32 0EH
Gyda rhywfaint o weithio gartref a theithio ledled ein ardal.
Rydyn ni’n chwilio am Rheolwr Masncho i ymuno â'n tîm!

Manylion cyswllt

Anfon unrhyw ymholiadau at info@welshwildlife.org

Am y swydd 

Mae Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru yn elusen sydd wedi ymrwymo i warchod llecynnau gwyllt mwyaf gwerthfawr y rhanbarth ar gyfer pobl a bywyd gwyllt.

Fel Rheolwr Masncho, byddi di'n:

  • Pwrpas cyffredinol y swydd Sbarduno incwm ein cangen fasnachu (DWT Enterprises Ltd) a sicrhau
    bod ein cangen fasnachu’n gweithio'n effeithiol i gefnogi'r elusen drwy
    gynhyrchu'r incwm digyfyngiad yma.
  • Goruchwylio seilwaith sy'n gysylltiedig ag ymwelwyr, gan sicrhau
    rheolaeth a chynnal a chadw da.
    Cefnogi tîm y gangen fasnachu, gan gynnwys help ymarferol ar gyfer
    cyfnodau o wyliau blynyddol neu salwch.

Am fwy o fanylion, edrychwch ar y pecyn recriwtio isod.

Sut i wneud cais

Cwblhewch ein ffurflen gais ar-lein neu anfonwch eich ffurflen gais wedi'i chwblhau (sydd ar gael i'w lawrlwytho isod) at info@welshwildlife.org gyda theitl y swydd fel y llinell bwnc. 

Dylech fod yn ymwybodol na fyddwn yn derbyn ceisiadau os oes gennym reswm i gredu eu bod wedi'u cynhyrchu'n gyfan gwbl gan ddefnyddio adnoddau AI cynhyrchiol. 

Rhaid i chi fod yn ddinesydd o'r DU i wneud cais am y swydd yma. 

Dyddiadau allweddol

Dyddiad cau y cais: Dydd Gwener 18fed Medi am 10am.

Dyddiad y cyfweliad: Dydd Gwener 2 Hydref yng Nghanolfan
Natur Parc Slip, Pen-y-bont ar Ogwr.

Os nad ydych chi wedi derbyn unrhyw ohebiaeth gennym ni erbyn 25ain Medu, mae eich cais wedi bod yn aflwyddiannus ar yr achlysur hwn. 

Cyfleoedd cyfartal

Rydyn ni wedi ymrwymo i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant. Rydyn ni’n arbennig o awyddus i gynyddu amrywiaeth ein staff, ein gwirfoddolwyr a’n cefnogwyr. Rydyn ni’n croesawu ceisiadau gan bobl o grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn y sector cadwraeth, yn enwedig pobl o grwpiau ethnig lleiafrifol, pobl ag anableddau a phobl o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol isel. Hyd yn oed os nad ydych chi'n teimlo eich bod chi'n bodloni'r holl feini prawf, cofiwch gyflwyno cais. Gallwn ddarparu hyfforddiant a chefnogaeth i'r ymgeisydd priodol.

Fel cyflogwr Hyderus o ran Anabledd, rydyn ni’n gwarantu cyfweliad i bob ymgeisydd anabl sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol ar gyfer y swydd wag. Rhowch wybod i ni os oes arnoch chi angen unrhyw addasiadau rhesymol ar gyfer unrhyw gam o'r broses ymgeisio neu gyfweld.