Cystadleuaeth Farddoniaeth Geiriau GWYLLT

Badger

Andrew Parkinson/2020VISION

Cystadleuaeth Farddoniaeth Geiriau GWYLLT

Mae Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru (YNDGC) yn trefnu cystadleuaeth farddoniaeth i ddathlu Diwrnod Barddoniaeth y Byd (21ain o Fawrth). Rydyn ni eisiau darllen popeth am yr hyn y mae natur yn ei olygu i chi, eich profiadau gyda natur, a pham mae natur yn bwysig. Mae croeso i geisiadau yn y Gymraeg ac yn Saesneg. Cyflwynwch eich cais i gael cyfle i ennill llyfr newydd Dan Rouse, 'The Children's Book of Birdwatching', yn ogystal â detholiad o lyfrau plant ysbrydoledig eraill. Bydd y gerdd fuddugol yn cael ei chyhoeddi ar ein gwefan ni, yn ogystal â chael sylw yn ein e-gylchlythyr misol, ac ar gyfryngau cymdeithasol.

Bydd 2 gategori – dan 12 oed, a 12 i 16 oed, a bydd enw’r enillydd yn cael ei gyhoeddi ar yr 21ain o Fawrth.

Byddwch yn WYLLT ar gyfer Diwrnod Barddoniaeth y Byd ac ysgrifennu cerdd am fyd natur!

Telerau ac Amodau: 

  • Dyddiad cau: 9am dydd Llun 6ed o Fawrth

  • Dim ond un cais i bob plentyn

  • Uchafswm oedran 16 oed, dim isafswm oedran

  • Gellir gwneud ceisiadau yn Gymraeg neu Saesneg

  • Rhaid i’r cerddi fod yn waith y plentyn ei hun

  • Dim ond drwy'r ffurflen yma y gellir cyflwyno ceisiadau

  • Rhaid sicrhau bod pob cwestiwn ar y ffurflen yn cael ei ateb

  • Gall oedolyn ysgrifennu / teipio’r cerddi

Cystadlu nawr!

Children reading Watch

Children reading Watch by Matthew Roberts

Beth am gael eich ysbrydoli drwy ymweld â'ch gwarchodfa natur leol

Archwilio