
Sut i ddarparu dŵr i fywyd gwyllt
Mae dŵr yn hanfodol i fywyd gwyllt ffynnu, ond nid dim ond ar gyfer yfed. Mae amffibiaid fel madfallod dŵr, brogaod a llyffantod yn defnyddio dŵr fel cysgod a llecynnau magu. Mae glöynnod byw yn cael mwynau a halen gwerthfawr o ddŵr ychydig yn fwdlyd, ac mae adar yn defnyddio dŵr i ymolchi a chael gwared ar barasitiaid.

Bydd bron unrhyw fath o ddŵr yn eich iard, o bwll o ddŵr glaw i bwll mwy, yn cael ei ddefnyddio gan ryw fath o anifail. Er mwyn ei wneud mor briodol â phosibl, gwnewch yn siŵr bod eich ffynhonnell ddŵr yn fas gydag ymylon graddol a garw eu gwead, fel bod unrhyw beth yn gallu dringo i mewn a dod allan eto.
Mae dŵr yn hanfodol i fywyd gwyllt ffynnu, ond nid dim ond ar gyfer yfed mae’n bwysig!
Yn ystod tywydd poeth yr haf, mae'n bwysig cael digon o ddŵr i anifeiliaid ac adar ei yfed ac ymolchi ynddo. Ond peidiwch â stopio gyda hynny! Mae hefyd yn bwysig llenwi’r dŵr yn gyson yn ystod misoedd oer y gaeaf oherwydd gall ffynonellau dŵr rewi a bydd yn anoddach dod o hyd iddyn nhw. Os ydych chi'n gosod bath adar yn ei le, gwnewch yn siŵr bod ganddo ymylon graddol a'i fod â gwead bras. Os ydych chi am fynd yr ail filltir, bydd hongian jwg diferu uwchben eich bath adar yn denu mwy o adar wrth iddyn nhw glywed y dŵr yn diferu.
Cyngor doeth ar gyfer darparu dŵr i fywyd gwyllt:
- Rhowch ddŵr lle gallwch chi wylio'r gweithgarwch gan nad ydych chi eisiau colli dim byd!
- Defnyddiwch fath adar wedi'i wneud yn arbennig, neu ddim ond bowlen ar y llawr - byddwch yn denu gwahanol greaduriaid i wahanol leoliadau.
- Rhowch ddŵr ar gyfer adar ger llwyn neu goeden gan eu bod nhw'n hoffi dod ato o le diogel.
- Cadwch lygad am ysglyfaethwyr fel cathod.
- Gadewch ddŵr lle gallwch chi ei gyrraedd yn hawdd i'w lanhau a'i lenwi.
- Cyflwynwch nodwedd ddŵr fach, fas neu’n rhedeg a darparu dŵr i adar yn ogystal â glöynnod byw a phryfed eraill. Gellir troi hen sinc yn nodwedd ddŵr hyd yn oed!
- Cloddiwch bwll a denu mwy fyth o fywyd gwyllt i'ch gardd, o frogaod a llyffantod i weision neidr a chrehyrod! Cofiwch ddarparu ymylon bas fel bod unrhyw greadur sy'n cwympo i mewn yn gallu dod allan eto.
- Gosodwch gasgen ddŵr yn ei lle fel eich bod yn gallu llenwi ffynonellau dŵr yn hawdd gyda dŵr glaw - ffordd wych o arbed dŵr!
Cofiwch: Pan mae’r tymheredd yn gostwng, mae dŵr yn rhewi, gan ei gwneud hi'n anodd i fywyd gwyllt ddod o hyd i ddŵr ffres i'w yfed. Torrwch y dŵr mewn bath adar bob dydd neu ei newid am ddŵr mymryn yn gynnes.
Creu gorsaf ddwr i löynnod byw

Marcus Wherle
Mae'r rhan fwyaf o löynnod byw yn bwydo ar neithdar, ond oeddech chi'n gwybod bod angen dŵr a mwynau arnyn nhw hefyd i hydradu a chadw’n iach? Dydi glöynnod byw ddim yn gallu glanio ar ddŵr agored, felly mae rhai'n dibynnu ar byllau glaw bas a thywod neu bridd gwlyb i gael y dŵr, yr halen a'r mwynau sydd arnyn nhw eu hangen.
Fe allwch chi helpu gartref drwy greu 'gorsaf pwll' syml i löynnod byw:
- Defnyddiwch ddysgl neu soser fas.
- Llenwch y ddysgl gyda chymysgedd o raean a cherrig bach, tywod a / neu bridd.
- Ychwanegwch ddigon o ddŵr i wneud y pridd / tywod yn wlyb ond gwnewch yn siŵr nad yw'r holl raean / cerrig o dan y dŵr.
- Gadewch y dŵr wrth ymyl planhigion bwyd glöynnod byw.
- Ychwanegwch ddŵr yn rheolaidd yn ystod cyfnod hir o dywydd poeth.