Garddio Bywyd Gwyllt - Tachwedd

WildNet - Amy Lewis

Awgrymiadau Garddio Bywyd Gwyllt ar gyfer Tachwedd

Cloddio pwll bywyd gwyllt

Creu pwll i fywyd gwyllt yw’r peth gorau y gallwch ei wneud dros bywyd gwyllt yn eich gardd. Mae’n cynnig lle i amffibiaid fagu a chartref i nifer o anifeiliaid di-asgwrn-cefn, sydd yn eu tro yn annog bywyd gwyllt arall fel ystlumod ac adar. Mae hefyd yn fendithiol i’ch gardd, gan fod Brogaod, Llyffantod a Madfallod dŵr oll yn bwyta gwlithod! Er mwyn creu un eich hun, dilynwch y camau isod:

  1. Dewiswch lecyn heulog a gwastad, i ffwrdd o ormod o gysgod. Bydd hyn yn rhoi’r amgylchiadau gorau i fywyd gwyllt yn y pwll a chaniatáu planhigion hanfodol sy’n ocsigeneiddio i dyfu.
  2. Dewiswch faint a siap eich pwll. Mae ymylon afreolaidd yn well am ei fod yn creu nifer o gynefinoedd meicro gydag ardaloedd o ddyfnder, cysgod a thymheredd amrywiol. Y peth pwysicaf ynghylch pwll bywyd gwyllt yw bod dyfnderoedd gwahanol, gyda digon o ddŵr bâs a’r ochrau yn mynd mewn yn raddol i’r pwynt dyfnaf. Os yw gofod yn brin, gallwch greu pwll ag un ochr yn unig ar oleddf. Mae llecyn dyfnach dros 60cm yn berffaith ar gyfer rhywogaethau fydd yno dros y gaeaf.
  3. O’r cynllun hwn, dewiswch faint o leinin fydd ei angen. Rydym yn argymell rwber butyl am ei fod yn rhad, hawdd eu ddefnyddio ac yn gwneud jobyn da. I weithio allan faint fydd ei angen arnoch defnyddiwch y fformiwla canlynol: Lled + (2 x dyfnder mwyaf) x Hyd + (2 x dyfnder mwyaf).
  4. Dechreuwch gloddio! Cloddiwch ffos oddi amgylch ymyl eich pwll fel y gallwch gladdu ymylon y leinin ynddo i roi gorffeniad cymen iddo.
  5. Unwaith i chi gloddio siâp eich pwll, cliriwch unrhyw gerrig miniog a leiniwch y twll â hen bapur newydd, carped neu rywbeth tebyg i amddiffyn y leinin. Dadroliwch y leinin a gadael i’w ymylon dros ben ollwng i’r ffosydd. Ychwanegwch haenen o dywod fel is-haen i blanhigion ac anifeiliaid.
  6. Gosodwch gerrig a boncyffion o amgylch ymylon eich pwll i greu hafan i ymwelwyr y dyfodol.
  7. Nawr gallwch eistedd yn ôl ac aros iddo lenwi â glaw!
  8. I gefnogi bywyd gwyllt cymaint ag y bo modd, planwch blanhigion pwll brodorol yn eich pwll. Mae rhestr awgrymiadol (ond nid cyflawn) yma.

Peidiwch ag ychwanegu pysgod i’ch pwll oherwydd y gallant fwyta llawer o anifeiliaid di-asgwrncefn sy’n byw mewn pyllau. Dyw ffowntenni ddim i’w hargymell chwaith gan fod y peirianwaith yn farwol i greaduriaid di-asgwrn-cefn.

Planhigion brodorol a argymhellir:

  • Callitriche stagnalis – ffafrio gan madfallod ddwr i osod wyau
  • Iris pseudacorus – yn darparu coesau unionsyth i gwas y neidr a mursennod deor
  • Myrophyllum spicatum or Potamogeton – planhigion wedi’i foddi ar gyfer ocsigeneiddio
  • Menyanthes trifoliata – prydferth ac yn creu mat sy’n arnofio ar gyfer gweision neidr sy’n gosod wyau

Planhigion sy’n hanfodol i’w hosgoi:

  • Crassula helmsii
  • Myrophyllum aquaticum
  • Azolla filiculoides
  • Hydrocotyle ranunculoides

 

Digging wildlife ponds

© Katrina Martin / 2020VISION