Stand for Nature Cardiff

Kingfisher

Jon Hawkins - Surrey Hills Photography

Sefyll dros Natur Caerdydd

Beth ydym yn ei wneud? 

Mae’r grŵp Sefyll dros Natur Caerdydd wedi bod yn prysur iawn yn ystod y prosiect, yn gweithio i ymgysylltu gyda’r byd natur ar draws ein prifddinas anhygoel.

Creu llefydd i Natur

Yn y flwyddyn llynedd rhedon ni Ymgyrch Ymwybodaeth Blodau Gwyllt a oedd yn anelu at codi ymwybodaeth amdan bwysigrwydd ardaloedd “no-mow” a “1-mow” ar draws y ddinas. Cynnorthwyodd y grŵp hefyd i cloddio pwll mewn gardd cymunedol lleol, sydd ers hynny wedi llenwi a dod ag ystod eang o fywyd gwyllt newydd i’r lleoliad.

Ymgyrchu i’r Amgylchedd

Bu'r grŵp hefyd helpu i ysgrifennu'r Maniffesto Ieuenctid ar gyfer COP15, dogfen sy’n amlinellu gofynion pobl ifanc o ardraws Cymru amdan y fyd natur. Cafodd hyn dderbyniad anhygoel gan Lywodraeth Cymru, a mi wnath y CEO o’r Ymddiriedolaeth Natur Craig Bennett hyd yn oed sonio amdano yn un o’i paneli yn ystod y digwyddiad!

Arolygu Bywyd Gwyllt

Mae'r ffocws eleni wedi bod i gofnodi a chasglu data ar rhywogaethau o ardraws y ddinas, gydag aelodau ein fforwm yn arwain prosiect arolygu bylchau adar yn Fferm y Fforest. Mae rhai aelodau hefyd wedi bod yn helpu gydag arolygon Pathewod ardraws Caerdydd, a rhydym yn gobeithio i gael mwy o gyfleoedd fel hyn yn yr Haf.

Adferu ein Afonydd

Rydym yn ymgyrchu i Achub ein Taff o carthion, plastig, a llygredd cemegion. Rydym yn gweithio i cynnwys cymunedau lleol a ymgymeryd gwyddoniaeth dinesydd i monitro iechyd yr afon. Mi fyddwn ni’n cyflwyno’r tystiolaeth yn yr Senedd yn ystod ein uwchgynhadledd Sefyll dros Natur 2024. Ein nod yw gofyn i’r llywodraeth beth maen nhw’n ei wneud i wella’r mater hon, ac i wneud yn siwr ei fod nhw’n hadnabod y gwerth anadferadwy yr afon Taff.

Ydych chi’n barod i ymuno?

Rydym yn wastad edrych am aelodau newydd, felly os ydych chi'n barod i ymuno â'n fforwm, llenwch y ffurflen cofrestru isod – dylai ddim on gymryd chi ychydig o funudau i’w lenwi!

Unrhyw gwestiynau? Cysylltwch â'n Swyddog Ymgysylltu Gwyllt Alex ar: a.griffiths@welshwildlife.org

Dan 18? Cofrestrwch Yma Dros 18? Cofrestrwch Yma