Garddio Bywyd Gwyllt - Hydref

WildNet - Amy Lewis

Awgrymiadau Garddio Bywyd Gwyllt ar gyfer Hydref

Helpu draenog sy’n gaeafu

Mae niferoedd draenogod dros y DU yn lleihau yn sgil colli cynefinoedd, ffyrdd prysur a rhwystrau sy’n atal symud o gwmpas. Dyw gerddi cymen a thaclus ddim yn cynnig llawer o gyfleoedd i Ddraenogod i greu nyth a gaeafu, felly gallwch helpu drwy adeiladu Blwch Draenog iddyn nhw. Gall hwn fod mor syml neu mor ffansiol ag y dymunwch, gyhyd â’i fod yn sych a bod awyr iach yn gallu mynd iddo.

  1. Adeiladwch neu dowch o hyd i focs pren tua 30 x 40 x 30cm o uchder o ran mesuriadau.
  2. Adeiladwch fynedfa dwnel neu dwll yn ochr y blwch yr un maint â chlawr CD (13cm x 13cm).
  3. Gorchuddiwch lawr y blwch â blawd llif neu bridd.
  4. Gorchuddiwch y blwch â deunydd plastig i’w gadw’n sych a gosodwch hwn mewn tomen o ddail neu foncyffion gerllaw tomen gompost neu gornel gysgodol o’r ardd sy’n tyfu’n wyllt.
  5. Gadewch rhywfaint o ddeunydd y tu allan er mwyn i’r draenog allu ei gario i’r blwch megis dail neu wellt.

Mae Draenogod angen teithio cryn belter i ddod o hyd i fwyd, dŵr a chymar. Gallwch eu helpu drwy greu coridorau rhwng eich gardd chi a gerddi eich cymdogion. Torwch dwll yn eich ffens, yr un maint â chlawr
CD (13cm x 13cm). Bydd hyn yn galluogi Draenogod i fynd a dod fel y mynnont.

Hedgehog in leaves.

Jon Hawkins – Surrey Hills Photography

Gadewch i Eiddew ffynnu

Gadewch Eiddew aeddfed heb ei dorri os yn bosib, gan fod hwn yn ffynhonell hwyr gwych o neithdar i bryfetach.