Cystadleuaeth Farddoniaeth Geiriau GWYLLT
Mae Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru yn trefnu cystadleuaeth farddoniaeth i ddathlu Diwrnod Barddoniaeth y Byd (21ain o Fawrth). Rydyn ni eisiau darllen popeth am yr hyn y mae natur yn ei olygu i chi, eich profiadau gyda natur, a pham mae natur yn bwysig. Mae croeso i geisiadau yn y Gymraeg ac yn Saesneg. Cyflwynwch eich cais i gael cyfle i ennill llyfr newydd Dan Rouse, 'The Children's Book of Birdwatching', yn ogystal â detholiad o lyfrau plant ysbrydoledig eraill. Bydd y gerdd fuddugol yn cael ei chyhoeddi ar ein gwefan ni, yn ogystal â chael sylw yn ein e-gylchlythyr misol, ac ar gyfryngau cymdeithasol.