Dod ag afancod yn ôl i Gymru!

beaver wildlife trust

David Parkyn

Dod ag afancod yn ôl i Gymru!

Ewch i Brosiect Afancod Cymru yma

Mae Prosiect Afancod Cymru wedi bod yn ymchwilio i ymarferoldeb dod ag afancod gwyllt yn ôl i Gymru ers 2005

Mae'r afanc Ewrasiaidd (Castor fiber) yn gnofil mawr, lled-ddyfrol gyda ffwr brown tywyll neu ddu, cynffon siâp rhwyf a dannedd blaen oren nodweddiadol. Mae’n byw mewn cynefinoedd dŵr croyw fel afonydd, llynnoedd neu byllau ac yn bwydo ar amrywiaeth eang o lystyfiant, gan gynnwys rhisgl coed helyg a bedw. Ar un adeg roedd afancod yn gyffredin ledled Cymru, ond oherwydd gor-hela gan bobl am eu ffwr, eu cig a’u chwarennau arogl, wynebu difodiant oedd eu hanes ar ôl yr Oesoedd Canol yng Nghymru ac erbyn diwedd yr 16eg ganrif roeddent wedi diflannu o weddill Prydain.

Am y newyddion diweddaraf, a gwybodaeth lawn am afancod yng Nghymru, gan gynnwys adnoddau dysgu ‘Acnod yng Nghymru’ AM DDIM ar gyfer ysgolion cynradd, pecynnau cymorth gwyddoniaeth dinasyddion AM DDIM, a chanlyniadau arolwg cyhoeddus a gynhaliwyd gan Brifysgol Caerwysg:

Ewch i Brosiect Afancod Cymru yma

I roi gwybod am weld afanc neu arwyddion maes
Cysylltwch â beaver.afanc@northwaleswildlifetrust.org.uk neu ffoniwch 01248 351541

I ddod o hyd i wybodaeth i dirfeddianwyr, ewch i beavermanagement.org

Mae Prosiect Afancod Cymru yn cael ei arwain gan Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru ar ran pob un o'r pum Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt yng Nghymru.