Pobl yw'r allwedd i adferiad natur...
Mae ymchwil wedi dangos bod angen cefnogaeth o leiaf 25% o boblogaeth ar gyfer unrhyw newid cymdeithasol ar raddfa fawr.
I'r perwyl hwnnw, gweledigaeth yr Ymddiriedolaethau Natur yw gweld o leiaf 1 o bob 4 o bobl yn cymryd camau cadarnhaol dros natur erbyn 2030.
Helpu pobl i helpu natur…
Ein nod yw helpu i ddod â bywyd gwyllt yn ôl drwy rymuso pobl i gymryd camau ystyrlon dros natur, a chreu cymdeithas gynhwysol lle mae natur yn bwysig.
Er mwyn helpu i gyflawni hyn, mae'r dull TIM GWYLLT wedi'i ddatblygu.
Mae Tîm Gwyllt yn ymwneud â chefnogi pobl a chymunedau; darparu ysbrydoliaeth, gwrando, a rhoi'r offer a'r hyder iddynt, sy'n eu galluogi i wneud cyfraniad cadarnhaol at adferiad natur.
Katrina Martin/2020VISION
Tîm Gwyllt
Gall unrhyw un fod yn rhan o fudiad Tîm Gwyllt, ni waeth beth fo'u cefndir, sefyllfa, neu adnoddau; mae pob math o ffyrdd o wneud gwahaniaeth i fywyd gwyllt a'n byd naturiol.