Cerdded, Coffi a Chlonc

Cerdded, Coffi a Chlonc

Ni wnaeth ein taith 'Cerdded, Coffi a Chlonc' mis Gorffennaf yng Nghanolfan Bywyd Gwyllt Cymru, Cilgerran ein siomi; yn ogystal â llawer o gyfle i sgwrsio yn Gymraeg, gwelsom bopeth ar ein taflenni sbotio a llawer mwy!

Siaradwr Cymraeg? Dysgwr Cymraeg?

Ni wnaeth ein taith 'Cerdded, Coffi a Chlonc' mis Gorffennaf yng Nghanolfan Bywyd Gwyllt Cymru, Cilgerran ein siomi; yn ogystal â llawer o gyfle i sgwrsio yn Gymraeg, gwelsom bopeth ar ein taflenni sbotio a llawer mwy! I fi'r peth gorau oedd gweld dwrgi ar Afon Teifi. Fodd bynnag, roedd digon o flodau gwyllt ac infertebratau ar y ddôl i ddarganfod a dysgu'r enwau amdanynt hefyd. Roedd llawer o loÿnnod byw - Gweirloyn  y Ddôl  (Meadow Brown), Chwilen y Sowldiwr (Soldier Beetle) a Gwyfynod Bwrned Chwe Smotyn (6 Spot Burnet) yn mwynhau'r Bengaled, (Common Knapweed) Llysiau’r Gringroen, (Common Ragwort) a’r Efwr (Hogweed).

Fel pob tro, ar ôl ein taith gerdded aethom am baned yng nghaffi Tŷ Gwydr yn y ganolfan ymwelwyr lle'r oedd mwy o gyfle i ymarfer sgwrs Gymraeg mewn lleoliad hamddenol. Mae rhai pobl hyd yn oed yn aros am ginio.

Wrth i mi weithio yn y warchodfa natur hardd hon, dw i eisiau helpu eraill i werthfawrogi a mwynhau'r natur syfrdanol sydd gennym yma wrth ddysgu rhai o'r enwau Cymraeg ar gyfer y bywyd gwyllt. Rwy'n ddysgwr fy hun ac roeddwn i eisiau sefydlu'r teithiau cerdded fel ffordd o ymarfer a dysgu mwy o Gymraeg wrth annog eraill i ddod at ei gilydd a defnyddio'r iaith.
Felly, os ydych chi'n mwynhau mynd allan ym myd natur ac eisiau cyfle i sgwrsio yn Gymraeg ac efallai dysgu mwy am y bywyd gwyllt yma, dewch draw. Rydyn ni'n gyfeillgar ac yn gefnogol iawn ac fel dysgwr fy hun rwy'n gwybod y gall deimlo ychydig yn frawychus ar y dechrau. Mae pobl sy'n mynychu'r teithiau cerdded yn amrywio o siaradwyr Cymraeg iaith gyntaf i bob lefel o ddysgwyr. Fodd bynnag, mae croeso i bawb i roi cynnig arni gyda chymorth eraill pan fo angen.

Ni fydd 'Cerdded, Coffi a Chlonc' ym mis Awst gan y byddaf yn rhy brysur gyda digwyddiadau gwyliau i ymwelwyr. Y daith gerdded nesaf fydd dydd Gwener 8fed o Fedi am 11yb, e-bostiwch g.taylor@welshwildlife.org  os hoffech ddod, os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os hoffech gael eich ychwanegu at y rhestr bostio.

Does dim cost i'r digwyddiad, heblaw am £4 i barcio drwy'r dydd, am ddim i aelodau
 

WildNet - Scott Petrek

Welsh Speaker or learner?

The July ‘Cerdded, Coffi a Chlonc’ at the Welsh Wildlife Centre did not disappoint; as well as lots of opportunity for chatting in Welsh, we saw everything on our spotter sheets and much more! For me the best thing was seeing an otter on the River Teifi.

However, there were plenty of wildflowers and invertebrates on the meadow to discover and learn the names for too. Lots of Meadow Brown butterflies, Soldier beetles and Six Spotted Burnet moths were enjoying the knapweed, ragwort and hogweed.

As usual, after our walk we went for a cuppa at the Glasshouse café in the visitor centre where there was more opportunity to practice Welsh conversation in a relaxed setting. Some people even stayed for lunch. 
As I work at this beautiful nature reserve, I wanted to help others appreciate and enjoy the stunning nature that we have here whilst learning some of the Welsh names for the wildlife. I am a learner myself and wanted to set up the walks as a way of practising and learning more Welsh whilst encouraging others to come together and use the language.

So, if you enjoy getting out in nature and want the opportunity to chat in Welsh and maybe learn more about the wildlife here, please come along. We’re very friendly and supportive and as a learner myself I know it can feel a bit scary at first. People that attend the walks range from first language Welsh speakers to all levels of learners. However, everyone is made welcome and has a go with help from others when needed.

There will not be a ‘Cerdded, Coffi a Chlonc’ in August as I will be too busy with holiday events for visitors.

The next walk will be Friday 8th September at 11am, please email g.taylor@welshwildlife.org if you would like to come, have any questions or wish to be added to the mailing list. There is no cost for the event, but the car park is £4 to park all day, free for WTSWW members.