Dŵr am Natur
Cyfarwyddid Fframwaith Dŵr
Dŵr yw ein hased naturiol mwyaf gwerthfawr ac yn gonglfaen i bob math o fywyd. Er hyn, yn y gorffennol rydyn wedi anwybyddu’r ffaith ei fod yn fregus i effeithiau llygredd ac wedi edrych arno fel adnodd annherfynol a’u gorddefnyddio a chamreoli. Mae’r cyfarwyddid fframwaith dŵr yn sôn am sut gall y camgymeriadau hen yma cael eu cywiro a sut gallwn ddiogelu ein hafonydd, nentydd, ac etifeddiaeth arfordirol a gwlypdiroedd ar ein cyfer ni a cenhedliadau’r dyfodol.
Overgrazed River BankTra bod dim diwydiant nag unigolyn medru cymryd cyfrifoldeb am gamgymeriadau cynt derbyniwyd ers amser nawr fod amaethyddiaeth a’u hymarferion rheoli tir cysylltiedig wedi cael effaith ar gefn gwlad a natur. Mae’r effaith yma yn fwy amlwg yn yr effaith o lygrwyr fferm wasgaredig ar systemau ein hafonydd a’r natur cefnogwyd. Fe fydd gweithrediad y cyfarwyddid fframwaith dŵr yn anocheladwy’n arwain i’r angen am newidiaeth yn y ffyrdd mae dŵr a’u cynefinoedd cysylltiedig yn cael eu hystyried a defnyddio gan y gymuned ffermio.
Ar y dechrau efallai bod y cyfarwyddid fframwaith dŵr yn edrych fel lefel arall o reolau i’r diwydiant amaethyddiaeth ond mewn gwirionedd trwy eu hystyried ynghyd ar newidiadau i’r polisi amaethyddiaeth gyffredin (PAC) a’r angaethau cynyddol cynigwyd gan gynlluniau amgylcheddol amaethyddol, fedrwn weld dylai fod cydymffurfio gyda’r cyfarwyddid rhoi cuddion i ffermwyr a natur ar draws Cymru.
Natur yn gefn gwlad Cymru.
Ffermio sydd yn defnyddio rhan fwyaf o’r cefn gwlad yng Nghymru, mae dros 80% o’n cefn gwald mewn rhyw ffordd yn destun o ddylanwad amaethyddiaeth. Mae’r tiroedd amaeth yma wedi ein darparu gyda thirlun amrywiol a gwahaniaethol sydd yn nodweddiadol o Gymru. Yn ogystal i ddarparu’r anghenion sylfaenol i ffermio mae’r tirluniau yma yn cefnogi amrywiaeth eang o rywogaethau planhigion ac anifeiliaid.
Mae ffermwyr mewn safle unigryw i geisio diogelu’r amgylchedd ac i adnabod newidiadau mewn gweithgaredd natur ar ei ffermydd. Mae nifer o ffermwyr wedi gweithio ar yr un tir am oes ac mewn sawl achos eu teuluoedd am cenhedliadau. Yn aml mae’r bobl sydd yn gweithio’r tir yn ddyddiol yn dal recordiau natur yn eu pennau fydd unrhyw gorff cadwraeth yn ffeindio’n anodd atgynhyrchu. Y wybodaeth yma sydd gan dirfeddianwyr unigol ynghyd a chyngor arbenigol sydd ar gael wrth ymddiriedolaethau natur Cymru sydd yn llunio sylfaen y prosiect yma.
Tra bod nifer o anifeiliaid a phlanhigion yn gymharol gyffredin, mae rhai yn prin iawn neu o dan fygythiad ac mae angen ymdrechion penderfynol er mwyn sicrhau goroesiad. Hyd yn oed y rhai cymerir yn ganiataol fel Clychau’r Gog ym mhrin yn Ewrop. Mae gwahaniaethau genetig o fewn yr un planhigyn neu anifail yn darparu nodweddion unigryw sydd yn helpu sicrhau eu goroesiad tymor hir, felly mae hyd yn oed rhywogaethau cyffredin a ffeindiwyd mewn rhai ardaloedd diarffordd cefn gwald yn unigryw. Dechreuwn sylwi nad ydyn yn byw arwahan o’r byd naturiol ac mae amddiffyniad o’r amgylchedd yn gyfrifoldeb i bawb. Rydyn nawr yn deall pwysigrwydd diogelu bioamrywiaeth am resymau esthetaidd, economaidd a moesol.
Arolygon fferm ac archwiliadau bioamrywiaeth (Beth sydd gen i!!)
Cyn penderfynu ar ffyrdd i wella gwerth cadwraeth y fferm ac i adnabod unrhyw cymorth ariannol posibl sydd ar gael, mae’n hanfodol fod arolwg o’r fferm ac yn benodol eu nodweddion gwlypdir fel llynnoedd, ffosydd, afonydd a nentydd yn cael ei arolygu er mwyn adnabod ei gwerth tuag at natur yn barod a all fod yn y dyfodol. Mae’r prosiect yma yn ceisio helpu ffermwyr a thirfeddianwyr trwy:
- Cynnig arolygon cyfrinachol am ddim o gynefinoedd gwlypdir
- Cyngor ymarferol am ddim ynglŷn â gwaith gwella cynefinoedd
- Cyngor cyfrinachol am ddim ynglŷn ag ymarferion rheoli fferm gall effeithio cydymffurfio gyda’r cyfarwyddid fframwaith dŵr a defnydd dŵr cynaliadwy
Arolygon am ddim
Cam cyntaf y prosiect yw hwn ac yn golygu gwneud archwiliad ar gynefinoedd gwlypdir fferm a rhywogaethau cysylltiedig yn dilyn cais wrth y tirfeddiannwr. Fe fydd arolygwyr profiadol o’r ymddiriedolaeth natur yn wneud yr arolwg. Fe fydd pob tirfeddiannwr yn derbyn rhestr o rywogaethau ffeindiwyd gyda chyngor ynglŷn ag unrhyw rywogaeth neu gynefin pwysig a ffeindiwyd.
Gwelliannau cynefin
Yn dilyn y gwaith arolygu, fe fydd y tirfeddianwyr sydd â diddordeb mewn cynyddu gwerth cadwraeth ei fferm, yn enwedig rhai sydd am wella gwlypdir a ffyrdd dŵr medru cael cyngor cyfrinachol am ddim ar sut i wella rheolaeth y tir. Fe fydd swyddogion yr ymddiriedolaeth natur yn medru helpu bob tirfeddiannwr creu cynllun yn awgrymu ffyrdd am sut gall gwerth cadwraeth y fferm cael ei wella, yn ystyried anghenion bob tirfeddiannwr. Mae ffynonellau posibl gan gynnwys cynlluniau amgylcheddol amaethyddol presennol wedi rhestri yng nghefn y pecyn yma.
Gwyliadwriaeth
Mae’r pecyn yn cynnwys gwybodaeth am recordio a gwylio rhai rhywogaethau gwlypdir ac mae cyngor pellach ar adnabyddiaeth a gwyliadwriaeth ar gael i dirfeddianwyr am ddim trwy swyddogion yr ymddiriedolaeth natur. Mae profiad cynt o weithio gyda thirfeddianwyr wedi dangos i ni mewn sawl achos maen nhw sydd yn y safle orau i wneud y wyliadwriaeth tymor hir o fioamrywiaeth ar ffermydd. Mae hwn yn seiliedig ar y defnydd o rywogaethau mesur (anifeiliaid a phlanhigion sydd angen amodau penodol i oroesi). Mae gwylio’r rhywogaethau yma sydd yn hawdd i’w adnabod yn golygu fod newidiadau yn safon dŵr ac amodau arall ar y fferm yn hawdd gweld. Gall rhywogaethau allweddol cynnwys dyfrgi, llygoden bengron y dŵr, gweision y neidr, llyffantod, madfallod ac adar dŵr fel glas y dorlan a bronfraith fach y dŵr y ddau ohonynt yn gysylltiedig gydag ansawdd dŵr da.
Mae pob un o’r rhywogaethau yma yn gofyn am wahanol ffyrdd o arolygu a gwylio ac mae gwybodaeth ynglŷn â dulliau arolygu i weld yn y pecyn yma. Mae gwybodaeth am gynlluniau amgylcheddol amaethyddiaeth bresennol i gael wrth y cyrff statudol perthnasol neu wrth swyddogion prosiect yr ymddiriedolaeth natur.
Gwybodaeth bellach.
Rheolwr prosiect dŵr am natur
Dyfrig Jones
YNDGC
Canolfan natur,
Fountain Rd,
Tondu,
ridgend CF32 0EH
Tel 01656 724100
Mobile 07989 478176
E Mail: r.parry@welshwildlife.org
This work form part of the Phoenix Project and is supported with funds from WEFO
European Union Objective 1