Arddangosfa Afon Teifi
Mae llawr canol y Canolfan Natur Cymru nawr yn gartrefi i arddangosfa ddwyieithog barhaol ynglŷn â’r Afon Teifi, un o afonydd enwocaf Cymru, yn enwedig gyda physgotwyr! Ar un adeg roedd Aberteifi yn borthladd Afon brysur ac mae arian amcan un ddiweddar yn ceisio dychwelyd glan y dŵr i’w wreiddiau.

Mae’r dangosyddion yn dweud y stori o sut wnaeth daeareg yr Afon Teifi llunio’r cwm mewn i beth ydi heddiw a hefyd yn son am y diwydiant llechi (chwareli i fyny’r afon yng Nghilgerran). Fe fyddai llongau yn dod i fyny’r afon o’r porthladd yn Aberteifi i gasglu llechfaen cyn ei thrawsgludo i fannau eraill.
Mae yna nifer o ddangosyddion i weld a darllen, ac mae nifer ohonynt yn rhyngweithiol ac felly fedrwch hefyd cymryd rhan.
Hefyd ar y llawr yma gennym sgriniau teledu yn dangos y corsydd allan ar y warchodfa. Fedrwch symud y camera o gwmpas i edrych ar nifer o’r pyllau sydd ddim yn hygyrch wrth gerdded y warchodfa. Yn 2008 fe fydd y ddolen gyswllt i Ynys Sgomer yn gweithio ac felly fe fyddwch allu gweld Palod ac Adar Drycin Manaw ar yr ynys yn ystod y tymor cywir!