Ynys Sgomer
Y Dale Princess - Ffoto G. ThomasAr ddiwrnodau llonydd mae’r môr o amgylch Sgomer mor dryloyw mae’n bosib gweld yn ddwfn mewn i’r dŵr glasfaen. I ran fwyaf o bobl hwn fydd eu unig gipolwg mewn i’r byd tanfor o’r warchodfa natur forol sydd bron yn anial. Uwchben y tonnau, mae’r cyfoeth ac amrywiaeth o’r natur llawer mwy amlwg. Fe fydd ymwelydd i’r ynys yn gynnar yn yr haf yn ffeindio’r môr yn llawn rafftiau o wylogod, llursod a phalod, sydd yn gwasgaru, yn gadael olion dyfrllyd o olion traed yng ngolau’r haul ar draws y wyneb, neu’n plymio’n ddwfn i greu llwybr i’r bad nesaol.
Cyrraedd Sgomer. Ffoto. G. Thomas
Ffoto R.ParryMae’r gwylogod, llursod a phalod yn hedfan yn benderfynol i’r clogwyn, tra bod gwylanod y graig yn sglefrio’n dangnefeddus ar hyd cylchrediadau aer. Gwelwyd hyrddiau o wylanod coesddu yn cylchdroi fel plu eira troellog, ac mae’r ail adrodd o’u galwadau ar frys yn creu cytgordiau cerddorol. Yn y llonyddwch cysgodol mae’r aer yn pelydru gyda sŵn yr adenydd, a galwadau croch adar y môr yn atseinio yn erbyn y creigiau a’r dŵr.
Hyd yn oed gyda chymaint i weld, mae yna haenen arall o natur ar yr ynys sydd ddal yn guddiedig. Er bod y tyllau sydd yn rhwyllog ar hyd wyneb yr ynys yn i’w weld yn amlwg, mae’n anodd ceisio dychmygu’r miloedd o adar sydd yn deori wyau yn amyneddgar o dan y ddaear.
Ffoto: G ThomasMae’r nos hyd yn oed yn fwy dramatig wrth i filoedd o’r adar drycin Manaw nosol dychwelyd i’w tyllau, yn gwibio’r aer fel cysgodion ac yn syrthio’n drwsgl i’r ddaear. Gyda nifer enfawr o adar yn galw ar yr un amser, mae angerdd eu galwadau amhersain yn mygu’r ynys mewn blanced o sŵn.
Ffoto. G ThomasMike Alexander - 2006