Ynys Skokholm
Mae yna nythfa o adar drycin Manaw sydd siwr o fod y trydydd mwyaf yn y byd, yn cynnwys rhyw 15 y cant o poblogaeth y byd. Mae yna Pedrynnau drycin amlhad sydd rhyw 20 y cant o poblogaeth yr UE. Treuliwyd y ddau aderyn yma y rhan fwyaf o’u hamser allan ar y môr, dim ond yn dod i’r tir i cymharu, ac yna dim ond yn y nôs. Crewyd profiad nosol anhygoel i ymwelwyr yr ynys. Mae’r ynys hefyd yn cartref i 4500 o Balod ac mae tua 2000 o llursod a gwylagod yn amlhad ar y clogwyni.
Mae Skokholm hefyd yn bwysig am nifer o rhesymau hanes naturiol hefyd – mae’r llystyfiant arforol yn enghraifft prin o lystyfiant cynaledig gan cwningod; mae ffawna’r infertebratau yn cynnwys nifer o rhywogaethau prin yn genedlaethol; ac mae cennau’r clogwyni o ddiddordeb mawr. Gwelwyd morloi llwyd yn y dŵr o amgylch yr ynys trwy gydol y flwyddyn, a welwyd yn torheulio ar y creugiau yn ystod dŵr isel yn ddyddiol.
Mae morfilod yn cael eu gweld yn agos wrth y lan, gyda cipolygon anaml o ddolffiniaid cyffredin, trwynbwl a llwyd.
Mae’r ynys tua milltir o hyd a tua hanner milltir ar draws y pwynt mwyaf llydain, ardal o 100 hectar (260 erw). Mae’n ffiniedig gan clogwyni o hen tywodfaen coch sydd yn codi o saithdeg troedfedd yn y Gogledd Dwyrain i 160 troedfedd yn y De Orllewin ac yn aml yn cael eu curo gan stormydd. Mae hyn wedi creu morlin o baeau a rhigolau dwfn sydd yn datgelu llawer o strata’r creigiau isod mewn amrywiaeth o lliwiau coch a porffor. Wedi cael eu amgylchynu gan y clogwyni prydferth yma mae’r ynys yn llwyfandir ar ogwydd o’r De Orllewin i’r Gogledd Dwyrain gydag ychydig o toniadau ond llawer o frigiadau creigiog. Ac o’r un uchaf fedrwch gweld golygfeydd panoramig ar draws yr ynys.
Photo: Janet BaxterAr y pen De Dwyreiniol o’r ynys sefwyd goleudy godidog, sydd nawr yn di-griw ac yn gweithio trwy ynni’r haul.
Mae’r ynys siwr o fod yn un o’r ynysoedd mwyaf astudiedig erioed, gyda llawer o’r gwaith wedi gwneud yn ystod yr 1950au, ac wedi gwneud yn enwog trwy llyfrau’r naturiolwr a cyn tenant yr ynys Ronald Lockley, sylfaenydd yr Ymddiriedolaeth naturiolwyr Gorllewin Cymru a oedd yn rhagflaenwr i’r Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru. Mae gan yr ynys hanes cyfoethog a diddorol gan ar un adeg neu gilydd y mae wedi bod yn cwningar, fferm, gwylfa adar ac nawr yn warchodfa natur.