Sir Benfro gwarchodfeydd natur
1. Trwyn Cemaes
Trwyn Cemaes yw'r mwyaf gogleddol o'r pentiroedd hardd niferus ar arfordir Sir Benfro, ac mae'n edrych i lawr dros ehangder aber yr afon Teifi draw am Warchodfa Natur Ynys Aberteifi, sy'n perthyn i'r Ymddiriedolaeth.
2. Coed Pont Bren
3. Dowrog Common
Rhandir helaeth o ros gwlyb a sych gyda phyllau a chorsydd, ym mhen uchaf Afon Alun. Mae'r safle amrywiol yn gartref i fwy na 350 o rywogaethau o blanhigion yn blodeuo, yn cynnwys y Tegeirian Llydanwyrdd Bach. Mae'r safle'n gartref i amrywiaeth eang a diddorol o infertebrata, yn cynnwys Brith y Gors, y Teigr Sgarlad (gwyfyn), y Fursen Goch Fach, Gwas y Neidr Blewog a'r Fursen Gynffon Las brin.
4. Garne Turne Rocks
5. Goodwick Moor
Corslwyn, cors gorlifdir, ffen, prysgwydd a rhwydwaith dyrys o ffosydd.
Gorwedd y warchodfa rhwng dwy nant, sy'n cyfuno yn ei chornel ogledd-ddwyreiniol. Mae lefel y dwr ar ei uchaf rhwng misoedd Hydref ac Ebrill a gall y rhos cyfan gael ei orlifo os bydd llanw'r Gwanwyn yn digwydd yr un pryd â glaw trwm.
6. Llangloffan Fen
Mae'r warchodfa'n cynnwys pen gorllewinol un o'r gorlifdiroedd mwyaf yng Nghymru bellach, neu gorsydd ar lawr cwm, yn gartref i gors dal, dôl gorsiog a chymunedau o ros a ffen a'u rhywogaethau cysylltiedig. Ceir ardal o borfa wedi'i lled-wella yn rhan o'r warchodfa hefyd.
7. Llannerch Alder Carr
Mae'r ffen yma o Werni wedi datblygu ar y priddoedd mawnog, dwfn a geir ar lawr y cwm, heb ddraeniad da o gwbl, ac mae'n enghraifft nodedig o fath o goetir a arferai fod yn llawer mwy cyffredin ar un adeg ar safleoedd heb ddraeniad da. Mae'r ffen o Werni'n arbennig o hen ac yn gartref i gyfoeth o blanhigion epiffytig, yn gen, bryoffytau a rhedyn y derw.
8. Pembroke Upper Mill Pond
Pwll gyda chorslwyn yn datblygu, mign a ffen, gyda choetir gerllaw.
Arferai'r pwll fod yn rhan o gilfach lanwol yn ymestyn tua'r dwyrain oddi tan Gastell Penfro. Mae'r warchodfa'n ffurfio pen dwyreiniol eithaf y gilfach yma.
9. Pengelli Forest
Mae Coedwig Pengelli'n rhan o'r bloc mwyaf o goetir Derw hynafol yng Nghymru.Ymhlith yr amrywiaeth cyfoethog o famaliaid mae Moch Daear, Ffwlbartiaid, Llygod y Coed a Llygod Coch. Er mai pur anaml y gwelir Pathewod ar y safle, mae gweddillion y cnau Cyll gyda'r olion dannedd nodweddiadol arnynt yn dangos eu bod yn bresennol yma. Mae'r ystlum Barbastél prin yn un o blith wyth rhywogaeth o ystlumod sy'n clwydo ac yn chwilio am fwyd yn y coetir.
10. Penralltfach
Mae'r tir yn gostwng yn serth i ffwrdd oddi wrth ffordd fechan lle ceir coetir Derw gyda draeniad da a rhai enghreifftiau nodedig iawn o Dderw hynafol, sy'n anghyffredin yn Sir Benfro. Mae'r isdyfiant yn cynnwys Cyll a Drain Gwynion a cheir planhigion nodweddiadol ar y ddaear, yn cynnwys sawl rhywogaeth o redyn a gorchudd helaeth o Glychau'r Gog yn y pen deheuol.
11. Saint Margaret's Island
Calchfaen yw'r ynys yn bennaf, gyda chlogwyni gorllewinol fertigol hynod drawiadol, sef allgraig ddeheuol Synclin enwog De Sir Benfro. Ymhlith yr arwyddion o weithgarwch dyn ar yr ynys yn y gorffennol mae'r gwaith chwarelu eang, a thai cysylltiedig y chwarelwyr. Hefyd, ceir cae bychan gyda bothy ar yr ynys fawr.
12. Skokholm Island
Mae'r ynys yn enwog am y casgliad o Adar Drycin Manaw a'r Pedryn Drycin Prydeinig a geir yma, ac mae'n cynnig cartref i boblogaethau cryf o'r Pâl hefyd, yn ogystal â Llurs a'r Gwylog. Mae'n bur debyg bod adeiladau'r fferm, sy'n cynnig y llety presennol, yn dyddio o ddechrau'r 18fed ganrif.
13. Skomer Island
Y safle pwysicaf i adar môr yn ne Prydain, gyda glaswelltir morol, llystyfiant mewndirol glasach, nentydd a phyllau o wneuthuriad dyn. Ceir yma gyfoeth o weddillion hanesyddol. Efallai fod y boblogaeth o Adar Drycin Manaw a geir yma y mwyaf yn y byd, ac mae'r poblogaethau o'r Pâl, y Pedryn Drycin Prydeinig, y Gwylog a'r Llurs a geir yma'n cynrychioli cyfran helaeth iawn o gyfanswm poblogaeth y rhywogaethau hyn ym Mhrydain yn gyffredinol.
14. Temple Barr Carr
am fwy o wybodaeth
15. West Williamston
Pentir yw'r warchodfa ar gydlifiad afonydd Caeriw a Cresswell. Mae'r morfa'n gilfachog iawn gyda'r cilfachau llanwol wedi'u tyllu fel baeau llwytho ar gyfer y chwareli calchfaen yn y 18fed ganrif. Mae llawer o'r cilfachau'n troi'n forfa yn awr ac mae llystyfiant wedi tyfu ar y tomenni rwbel sy'n weddill o'r chwareli.
16. Westfield Pill
Mae'r cynefin yn cynnwys hen lein reilffordd gymharol agored, gyda'r balast calchfaen gwreiddiol yn ei le, ac ymyl coetirol o dderw, dôl o brysgwydd a lagwˆn. Mae gan y llyn, sy'n llanwol yn rhannol, ardal o gorslwyn yn y pen gogleddol, ac ymylon lleidiog i'r de ac ynysoedd o wneuthuriad dyn.