Reserves

Mae’r rhan yma o Gymru yn uno tirweddau ucheldiroedd dramatig ac arfordirol gyda bryniau raddol, coetiroedd cysgodol a gwlyptiroedd digynnwrf.  Mae gosod tir o’r neilltu i’w sefydlu fel gwarchodfeydd natur o hyd wedi bod yn rhan hanfodol o waith yr ymddiriedolaeth, ac rydyn nawr yn rheoli ychydig o dan 100 o warchodfeydd natur sydd yn dangos enghreifftiau o’r tirweddau gorau ynghyd ag ambell gastell adfeiliedig a rhaeadr!

Nid oes gan bob warchodfa pethau prin ond mae gan bob un rhywbeth arbennig i’w gynnig.  Mae rhai ohonynt yn fawr, tra fod eraill yn fach iawn; mae rhai medru ymdopi gyda nifer fawr o ymwelwyr, tra bod eraill yn fwy fregus.  Polisi yr ymddiriedolaeth yw i annog ymwelwyr i ddod i mwynhau’r etifeddiaeth bendigedig o’r natur ar cymaint o warchodfeydd ag sy’n bosib.

Rydyn yn creu gwelediad a cynllun gwaith ar gyfer bob warchodfa natur.  Mae pob gwarchodfa yn cael ei rheoli er mwyn creu’r amodau gorau i’r cynefinoedd a rhywogaethau pwysicaf y maent yn cefnogi, gan ystyried blaenoriaethau a gosodwyd trwy’r cynlluniau gweithrediad Bioamrywiaeth.  Rydyn hefyd yn ystyried anghenion ein ymwelwyr a’r rheolau a deddfau perthnasol, yn anelu tuag at darparu amgylchedd naturiol a diogel i chi mwynhau.

Pan yn ymweld a gwarchodfeydd natur, neu unrhyw man gwyllt, os gwelwch fod yn dda a wnewch chi, parchu’r natur wrth adael popeth yn ddigyffro a dilyn côd cefn gwlad.

Sylwer ei bod yn bolisi gan yr Ymddiriedolaeth i sicrhau mynediad rhad ac am ddim i ymwelwyr i’w safleoedd ond, yn achlysurol, bydd rhaid codi tâl am barcio.  Rydym wedi ceisio darparu gwybodaeth am gludiant cyhoeddus ar gyfer y safleoedd i gyd ond, am wybodaeth bellach, rydym yn argymell eich bod yn cysylltu â Traveline Cymru ar 0870 608 2 608 neu’n mynd am dro i’w gwefan yn www.traveline-cymru.org.uk.