Morgannwg gwarchodfeydd natur
1. Coed Garnllwyd
Coetir llydanddail hynafol gyda pheth prysgwydd a dolydd.
Mae Coed Garnllwyd yn rhan o gampws o goetir sydd i’w weld ar lethrau deheuol a dwyreiniol cymoedd bychain Nant Llanddewi yn Hwytyn a Nant Llancarfan.
2. Coed Llwyn Rhyddid
Coetir gymysg eilradd sy’n gartref i grehyrfa. Mae Coed Llwyn Rhyddid yn goetir gymysg a blannwyd yn rhannol ryw dro yn ystod y can mlynedd a hanner diwethaf. Mae crehyrod yn nythu wedi cael eu cofnodi yn ardal Hensol ers 1872 o leiaf.
3. Coed y Bedw
Coetir llydanddail hynafol wedi’i lleoli ar draws terfyn rhwng priddoedd asidig a chalchaidd. Mae’r safle wedi newid oherwydd bod glo wedi ei gloddio yma yn y gorffennol. Ceir tystiolaeth o hyn o hyd, ac mae’n gyfrifol am lawer o’r topograffi anwastad.
4. Coed y Bwl
Mae Coed y Bwl yn goetir ynn hynafol sydd wedi’i lleoli ar ochr ogledd orllewinol Cwm Alun ac yn gorwedd ar Galchfaen Carbonifferaidd. Mae’r warchodfa’n enwog am fod yn goedwig llawn Cennin Pedr Gwyllt, ac mae’r blodau hyn yn drwch ar hyd y llawr ym mhen deheuol y goedwig ar ddechrau’r gwanwyn, ynghyd â Blodau’r Gwynt. Ar y llethrau gogleddol, Clychau’r Gog sydd i’w gweld fwyaf.
5. Cwm Colhuw
Glaswelltir calchaidd arfordirol, coetir o ynn a phrysgwydd. Mae’r warchodfa wedi’i lleoli ar lethr deheuol Afon Colhuw. Mae’r warchodfa’n cynnwys rhan o glawdd terfyn a ffosydd hen Gaer Bentir o’r Oes Haearn.
6. Lavernock Point
Mae Larnog yn cynnwys nifer o gynefinoedd, yn bennaf, glaswelltir a llwyni calchfaen arfordirol Jurasig. Mae’r Prysgwydd Derw i’r gogledd o Heol y Gaer yn gartref i löyn byw y Brithribin Porffor. Cafodd yr Hen Gae Gwair i’r de o Heol y Gaer ei dorri ar gyfer gwair ddiwethaf yn 1984 ac mae rhywogaethau dôl wedi ailgartrefu yma erbyn hyn. Mae Dolydd y Gogledd a’r De wedi’u gwahanu gan rimyn o brysgwydd sy’n cynnwys Magnelfa o’r Ail Ryfel Byd, Cofadail Hynafol Rhestredig bellach.
7. Parc Slip
Safle glo brig wedi’i adfer ac yn cynnwys glaswelltir, coetir a gwlybdir, yn cynnwys llyn gyda chuddfannau i adar. Mae’r glaswelltir yma’n cynnig cynefin bwydo a chlwydo i’r Gïach Gyffredin yn ystod y gaeaf, a safleoedd nythu ar gyfer y Gornchwiglen, Corhedydd y Waun a’r Ehedydd yn ystod yr haf.
8. Pwll Waun Cynon
Ceir cynefinoedd amrywiol ar y safle, yn cynnwys pwll mawr, cors, dôl gyda gorlifdir, coetir asidig o Dderw ac Ynn a phrysgwydd. Mae’r warchodfa wedi’i lleoli mewn ardal a arferai gael ei hystyried fel un o ardaloedd mwyaf llygredig y DG pan oedd y gwaith Ffwrnaseit gerllaw yn dal ar agor.
9. Taf Fechan
Coetir llydanddail hynafol, glaswelltiroedd calchaidd, afon a chlogwyni.
Mae GNL Taf Fechan yn cynnwys rhyw 2.5 km o afon gyda llethrau serth ochr y cwm yn galchfaen carbonifferaidd. Mae’r afon wedi erydu’r calchfaen yn geunant cul yng nghanol y safle.
10. Y Gweira
Glaswelltir corsiog a rhostir gwlyb ar dir isel. Mae Rhedyn Brenhinol wedi’i ddarganfod mewn dwy ardal sy’n gysylltiedig â ffosydd ar y safle.
11. Baglan Reserve
am fwy o wybodaeth
12. Blaenant y Gwyddyl
Mae Blaenant y Gwyddyl yn ardal o goetir llydanddail lled-naturiol hynafol ar briddoedd o wythiennau glo tenau, ar ochr ogleddol cwm serth Nant Gwyddyl. Ceir sawl cynefin heb goetir yn y fan hon, yn cynnwys gwely creigiog afon Blaenant y Gwyddyl a fwydir gan nentydd yn llifo i lawr ochr y cwm, sawl llannerch eang a chreigiau noeth ger y ddwy raeadr atyniadol.
13. Berry Wood
Coetir collddail cymysg hynafol. Gwelir y coed hynaf a mwyaf, derw yn bennaf, ar ochr orllewinol y warchodfa heddiw, ac mae’r gweddill yn cynnwys clystyrau o’r un oedran o Dderw, Bedw ac Ynn aml-goes.
14. Betty Church & Cwm Ivy
Coetir llydanddail hynafol, planhigfa, porfa galchaidd a chwarel. Mae gwarchodfa Cwm Eiddew a Betty Church wedi’i lleoli ym mhen gorllewinol eithaf tarren galchfaen gogledd Gŵyr. Mae dwy ran i’r warchodfa: adran o goetir a phorfa, wedi’i gwahanu gan goetir a thŷ preifat oddi wrth chwarel galchfaen fechan. Mae’r ddwy ran yn y warchodfa wedi’u cysylltu gyda’i gilydd gan lwybr troed cyhoeddus.
15. Bolgoed Quarry
Hen chwarel dywodfaen yw Bolgoed, ond daeth y gwaith i ben ynddi yn 1955. Mae’r cynefin yn cynnwys coetir collddail eilradd cymysg gyda chanopi agored ac yn y fan yma gwelir coed Ynn a Bedw. Eiddew a Mieri a welir yn bennaf ymhlith haen y ddaear. Mae’r gweddill wedi’i feddiannu gan brysgwydd eithin trwchus.
16. Broad Pool
Mae Pwll Llydan yn bwll mawr o ddŵr croyw sydd i’w weld mewn basn bas ar y llwyfandir calchfaen islaw Cefn Bryn. Mae’n un o nodweddion amlycaf ac enwocaf canol y Gŵyr. Rydym yn gwybod bod y Pwll mewn bodolaeth yn 1645.
17. Coed Gawdir
Pwll asidig mewn coetir hynafol mewn safle sy’n cael ei adfer. Y pwll yw canolbwynt y safle ac mae’n gorchuddio rhyw draean o’r warchodfa. Mae’n cael ei fwydo gan nant, sy’n mynd i mewn i’r pwll ar yr ochr ddwyreiniol ac mae’n llifo allan ar y lan orllewinol. Y llystyfiant dyfrol a welir yma yn bennaf yw glaswellt y dŵr ac mae rhywogaethau o frwyn i’w gweld ar hyd yr ymylon.
18. Craig Cilhendre
Coetir o goed derw’r ucheldir yw Craig Cilhendre ac mae rhan ohoni’n hynafol ei tharddiad, gyda rhai darnau o goetir gwlyb, ar lethr serth yn wynebu’r gogledd. Mae sawl trac llydan, yn dyddio o gyfnod cynharach pan gloddiwyd am lo yma, i’w cael ar y safle, a cheir llwybr hen dramffordd yn rhedeg drwy’r warchodfa. Mae clogwyn tywodfaen, sy’n rhyw 8 metr o uchder a thros gilometr o hyd, yn rhedeg drwy’r warchodfa ar frig y llethr, yn cynnig golygfeydd hyfryd dros Alltwen.
19. Elizabeth & Rowe Harding
Chwarel galchfaen garbonifferaidd, planhigfa, prysgwydd a choetir o amgylch. Mae wyneb y chwarel o ddiddordeb daearegol cenedlaethol, wedi’i ddynodi fel SoDdGA ac yn dangos haenau o galchfaen crinoidaidd gyda chleiau cysylltiedig â gwythiennau tenau o lo am yn ail. Mae’r nodwedd ddaearegol hon yn unigryw i
20. Gelli Hir
Mae’r warchodfa’n newid o gynnwys coetir Derw / Bedw / Helyg gwlyb yn y de a’r dwyrain i goetir sychach o Ynn, Castanwydd Melys, Sycamorwydd a Ffawydd yn y gogledd a’r gorllewin, gyda Gwerni ar hyd nant Llanilltud Gŵyr. Ceir isdyfiant o lwyni Cyll, gyda chlystyrau o Gelyn yma ac acw. Mae amrywiaeth y cynefin hefyd yn cynnwys llwybrau agored, nentydd a phwll.
21. Hambury Wood
Coetir hynafol ar glogwyn unig y môr. Mae mainc goffa tua chanol terfyn gogleddol y coed yn cynnig golygfeydd gwych o Drwyn Whiteford, cors halen Gogledd Gŵyr ac Aber Porth Tywyn.
22. Killay Marsh
Mae’r warchodfa natur drefol hon yn cynnig amrywiaeth cyfoethog o gynefinoedd, yn cynnwys cors / glaswelltir corsiog a darn helaeth o goetir gwlyb, coetir llydanddail sychach, glaswelltir niwtral sych, cors a mign / siglen. Dyma sy’n weddill o ardal helaethach o lawer o gors ar waelod cwm.
23. Kilvrough Wood
Coetir ynn hynafol a phlanhigfa o goed Ffawydd. Mae Coed Maenor Cil-frwch yn cynnwys dwy ardal o goetir, ar y naill ochr i’r A4118¸ ffordd de Gŵyr yng Nghwm Parkmill. Mae’r coed yn rhai lled-naturiol a llydanddail hynafol yn bennaf, yn cynnwys canopi o Ynn, Derw, Ffawydd a Llwyfenni, gyda phlanhigfa o goed Ffawydd [sy’n cyfrif am ran helaeth o’r coetir deheuol.
24. Llanrhidian Hill
Glaswelltir calchfaen, prysgwydd a chwareli. Mae llawer o’r safle ar lethr serth yn wynebu tua’r gogledd, ar Galchfaen Carbonifferaidd, yn rhoi golygfeydd hyfryd dros Aber Porth Tywyn. Mae hwn yn safle i weld y glöyn byw Marmor Gwyn prin yn lleol.
25. The Lucas Reserve
Coetir gwlyb, glaswelltir a phrysgwydd. Mae Gwarchodfa Lucas ar ffurf cae hir a chul gyda’i lethr yn ymestyn i lawr tua’r gogledd at Burry Pill.
26. Melincwrt Falls
Coetir o dderw hynafol yr ucheldir, nant a rhaeadrau. Cafodd y rhaeadr trawiadol sy’n wyth deg troedfedd o uchder, ar isafon yn perthyn i Afon Nedd, ei fraslunio gan Turner yn l794. Mae llawr y coetir yn garped o Glychau’r Gog ac yna Llysiau’r Swynwr, sy’n dod i gymryd eu lle yn nes ymlaen yn ystod y flwyddyn.
Gan fod yr atmosffer lleol yn y cwm cul hwn yn glos, mae ugain rhywogaeth o redyn wedi’u cofnodi yn y warchodfa. Ceir cynrychiolaeth dda o fryoffytau yma hefyd. Ymhlith yr adar sy’n nodweddiadol o’r cynefin yma, ac yn dod yma i fagu, mae’r Tingoch, Telor y Coed a’r Gwybedog Brith, a gwelir Bronwen y Dŵr a’r Siglen Lwyd ar hyd y nant yn rheolaidd, drwy gydol y flwyddyn.
27. Peel Wood
Coetir llydanddail eilradd mewn chwarel galchfaen segur. Mae Coed Peel i’w gweld ar safle hen chwarel Callencroft. Mae canopi’r coetir yn llawn Sycamorwydd, gydag Ynn a Derw yma ac acw.
28. Prior's Meadow
Coetir collddail cymysg eilradd a gwlyb a dôl ar dir isel. Mae canopi’r coetir yn cynnwys cymysgedd sylweddol o rywogaethau, yn cynnwys Castanwydd Melys, Ffawydd, Ynn, Gwerni, Bedw, Derw Digoes, Yw, Llwyfenni a Phisgwydd Dail Bychain. Mae’r ddôl hefyd yn cynnwys amrywiaeth eang o laswelltau a hesg, ac mae mwy na 100 o blanhigionfasgwlaidd wedi’u cofnodi.
29. Red Jacket Fen
Mae’r safle’n fign ar dir isel, mewn cwm cul rhwng mign Pant y Sais ac aber Afon Nedd. Mae cloddiau rheilffordd i’w gweld ar ddau o derfynau’r safle ac mae’r rhain yn eiddo i Network Rail. Mae eiddo’r Ymddiriedolaeth yn rhimyn trionglog gyda’r pen gorllewinol rhwng y rheilffordd a Chamlas Tennant.
30. Redden Hill Wood
Coetir hynafol wedi’i blannu oedd Bryn Redden yn wreiddiol, gyda phlanhigfa o gonwydd pan ddaeth i ddwylo’r Ymddiriedolaeth i ddechrau. Mae’r conwydd wedi’u clirio bellach ac mae’r coetir collddail cymysg, sy’n cynnwys mwy o goed Ynn na dim byd arall, wedi cael cyfle i adfywio’n naturiol.
31. Redley Cliff
Pentir calchfaen arfordirol gyda choetir llydanddail eilradd, prysgwydd a glaswelltir. Gwelir Clogwyn Redley ar y pentir calchfaen ym mhen gorllewinol Bae Caswell. Ar y copa, gwelir gweddillion Bryngaer Caswell, Cofadail Hynafol Rhestredig o bwysigrwydd cenedlaethol ac a warchodir yn gyfreithiol.
32. Deborah's Hole
Clogwyn môr, glaswelltir calchaidd a rhostir. Mae Twll Deborah wedi’i enwi ar ôl ogof fechan anodd ei chyrraedd. Cafwyd hyd i arfau o Oes y Cerrig yn yr ogof hon wrth gloddio’n archeolegol yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Maent i’w gweld heddiw yn y Sefydliad Brenhinol yn Abertawe.
33. Long Hole Cliff
Clogwyn môr, glaswelltir calchfaen, rhostir ac ogofâu. Mae Clogwyn Twll Hir wedi’i enwi ar ôl ogof fechan yng nghanol y warchodfa. Cafwyd hyd i arfau o Oes y Cerrig yn yr ogof hon wrth gloddio’n archeolegol yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg, a gweddillion ffosilau anifeiliaid o Oes yr Iâ. Maent i’w gweld heddiw yn y Sefydliad Brenhinol yn Abertawe.
34. Overton Cliff
Clogwyni môr, glaswelltir calchfaen, rhostir a phrysgwydd. Mae Colomen Wyllt y Graig yn defnyddio siliau Clogwyn Owrtyn i nythu, tra bo Jac y Do yn defnyddio’r ogof a wyneb y graig. Efallai y gwelwch chi’r Gnocell Werdd yn chwilio am forgrug ymhlith y twmpathau morgrug yn y glaswellt.
35. Overton Mere
Mae’r warchodfa wedi’i henwi ar ôl y bae y mae’n edrych drosto. Ceir yr amrywiaeth llawn o gynefinoedd Arfordir De Gŵyr yn y warchodfa hon bron, yn amrywio o brysgwydd Drain Gwynion a Drain Duon, i gymysgedd o eithin a rhos, sgri calchfaen agored, a glaswelltir calchfaen wedi neu heb ei wella.
36. Port Eynon Point
Clogwyn môr, blaendraeth, glaswelltir calchfaen, rhostir, coetir ynn eilradd a chwareli. Mae’r warchodfa’n bwysig yn rhanbarthol fel safle ar gyfer gwylio’r môr, yn arbennig tua diwedd mis Gorffennaf a dechrau Awst, ond mae adar diddorol i’w canfod yma drwy gydol y flwyddyn fel rheol.
37. Sedger's Bank
Blaendraeth creigiog, traeth a glaswelltir o dwyni tywod gweddillol. Mae Clawdd Sedger yn cyfrif am ran helaeth o ben mwyaf gorllewinol Bae Porth Eynon a dim ond ar lanwau isaf y flwyddyn y gellir gweld y warchodfa natur yn ei chyfanrwydd.