Ceredigion Gwarchodfeydd natur
1. Odynau Calch Aberstrincell
Planhigion yr arfordir, drain duon. Odynau calch diffaith ar yr arfordir, mae pedwar ohonynt ar ôl i'w gweld ar y safle.
Mae Odynau Calch Aberstrincell yn rhan o ddyddodion rhewlif darniog o glogfaen. Ceir wyneb meddal ar graig clogwyn y môr ac mae'n erydu. Mae'r safle 1.6 erw'n bwysig yn hanesyddol, gyda gweddillion nodedig 4 odyn galch segur. Mae'n bur debyg mai'r diwydiant hwn sy'n gyfrifol am ddatblygiad planhigion mwy calchaidd mewn ardal lle mae'r priddoedd yn asidig yn bennaf.
2. Allt Crug Garn
SN 518617
Maint: o.4ha
Cynefinoedd: Glaswellt / rhos
Mynediad yn abnodd / cyfyngedig
3. Allt Pencnwc
Mae'r warchodfa gymharol hir a chul yma'n cynnwys coetir lled-naturiol hynafol ar lethr serth sy'n gostwng o borfa wedi'i gwella i'r gogledd, i lawr at Afon Gwili, sy'n rhedeg ar hyd y ffin ddeheuol.
4. Caeau Llety Cybi
Dolydd isel, serth, niwtral, wedi'u hamgáu a'u rhannu gan wrychoedd hynafol sy'n gyfoeth o rywogaethau. Mae'r warchodfa'n cynnwys pedwar o gaeau bychain llawn perlysiau, gyda'r glaswelltir niwtral yn dangos rhai nodweddion asidig. Mae'n debygol bod y llethr cymharol serth yn y fan yma wedi achub y safle hwn rhag cael ei aredig a thrwy hyn mae wedi dal gafael ar ei nodweddion botanegol.
5. Ynys Aberteifi
Ynys yn cynnwys clogwyni a llethrau morol a llwyfandir o laswellt, gerllaw arfordir gogleddol aber yr afon Teifi. Ceir golygfeydd da o Drwyn Cemaes a Pharc Fferm Ynys Aberteifi.
6. Coed Maidie B Goddard
Mae'r warchodfa gymharol fawr hon yn fosaig o goetir a glaswelltir gyda rhodfeydd llydan, coediog. Mae rhan o'r coetir yn goetir aeddfed, eilradd o Ynn.
7. Coed Penglanowen
Coetir stad gymysg wedi'i phlannu. Mae canopi'r coetir yn amrywiol, yn cynnwys rhywogaethau fel Ynn, Ffawydd, Derw Digoes, Celyn, Sycamorwydd, Llwyfain Llydanddail a Ffynidwydd Cawraidd, sy'n nodweddiadol o goed cysylltiedig â phlastai gwledig mawr Gorllewin Cymru. Mae rhai o'r rhywogaethau'n eithriadol fawr, yn cynnwys coeden dalaf y sir, sef Sequoiadendron giganteum.
8. Coed Simdde Lwyd
Coetir o dderw hynafol yn yr ucheldir. Mae'r warchodfa'n goedwig o Dderw Digoes ar lethr serth yn wynebu tua'r de. Canopi pur o Dderw Digoes a geir yma fwy neu lai, ond gyda Bedw Cyffredin a Bedw Arian i'w gweld yn amlwg mewn rhai ardaloedd. Mae nant, yn y pen dwyreiniol, yn llifo'n ddwfn i lawr i Afon Rheidol.
9. Cors Ian
Cors ar waelod y cwm a llethrau eithinog ar y bryn. Planhigion corsydd a llygod bengron dwr. Cors ar lawr cwm yn yr ucheldir yw Cors Ian gyda mosaig diddorol o gynefinoedd, yn cuddio amrywiaeth eang o blanhigion cors. Yng nghanol gwellt y gweunydd a'r brwyn mae poblogaeth fechan o lygod bengron dwr yn ffynnu, gan nythu uwchben y ddaear a'u tiriogaeth yn ymestyn gryn bellter oddi wrth wely canolog y nant, sydd wedi gordyfu.
10. Cwm Clettwr
Gellir rhannu'r warchodfa'n ddwy brif ran, ardal eang o rostir yn adfywio ac ardal o goetir llydanddail sydd wedi'i dynodi'n SoDdGA. Arferai'r ardal o rostir fod yn blanhigfa o gegid, a gliriwyd yn 2000. Mae'r ardal yma'n llawn grug ac eithin yn awr, gydag adfywiad
sylweddol o goed bedw. Mae rhai rhywogaethau llydanddail wedi'u plannu yma hefyd, i annog y broses adfywio.
11. Llyn Eiddwen
Llyn oligotroffi g-mesotroffi g, rhostir yr ucheldir a chors. Llyn naturiol yn yr ucheldir, 300m uwch ben lefel y môr. Mae'r ardal o amgylch, sef rhostir yr ucheldir a glaswelltir asidig, yn nodweddiadol o'r rhan yma o ganolbarth Cymru, ac mae'n dir comin.
12. Llyn Fanod
Llyn naturiol yn yr ucheldir, planhigion dyfrol, gweision y neidr. Gellir disgrifi o'r llyn, sy'n ymestyn am 4.5 he, fel chwaer i Lyn Eiddwen, sydd ryw 2km i ffwrdd. Mae'n ardal fwy cysgodol, gyda chors mewn basn serth yn y pen deheuol a rhostir ar y lan serth sydd agosaf at y llwybr troed.
13. Old Warren Hill
Coetir cymysg a nant ar lethrau Bryngaer Oes Haearn Old Warren Hill. Mae'r warchodfa'n cynnwys coetir amrywiol, yn gorchuddio copa a llethrau serth Old Warren Hill. Mae nant sy'n rhedeg drwy'r glyn coediog yn rhan o'r ffi n orllewinol.
14. Pant Da
Coetir derw'r ucheldir a ffawydd wedi'u plannu. Yn hanesyddol, arferai'r coetir yma gynnwys prysgwydd Derw. Cafodd y man canol ei
dorri'n glir yn 1950 a'i ailblannu gyda Llarwydd yn 1954. Newidwyd rhimyn ar hyd ochr y ffordd ar ddiwedd y 1950au am Dderw a Ffawydd ar gais y perchennog. Yn 1983/84, wedi i'r Ymddiriedolaeth dderbyn y safl e'n rhodd, cafodd mwyafrif y Llarwydd eu torri'n glir,
ac ailblannwyd y lleoliad gyda choed brodorol, Derw yn bennaf.
15. Penderi Cliffs
Clogwyn a llethr arfordirol, Coetir Derw'r Ucheldir a Rhostir Isel.
Ceir bron i 2 km o glogwyni yn y warchodfa, gyda phrysgwydd unigryw i glogwyni, sef Pisgwydd Dail Bychain (Tilia cordata), a chilfachau. Prif ddiddordeb biolegol y safl e hwn yw'r coetiroedd serth o Dderw Digoes yn wynebu tua'r gorllewin, yn cynnwys casgliad diddorol o rywogaethau
brodorol eraill fel Drain Duon, Drain Gwynion, Cyll, Pisgwydd Dail Bychain (yn arbennig yn y de ac yn y Rhigol Mawr), Piswydd yn y pen gogleddol, Criafol a Llwyfain Llydanddail.
16. Rhos Fullbrook
Mae'r warchodfa'n cynnwys ardal o laswelltir heb ei wella sy'n cynnig cyfoeth o fl odau a llaciau niferus, sy'n eithaf cyfoethog eu sylfaen. Mae ardal o gors lifwaddodol yn ffi nio â Nant Ty'n-y-swydd a cheir ardal fechan o goetir a phrysgwydd llawn cyfoeth o rywogaethau.
17. Rhos Glandenys
Porfa o ros a nant. Gellir rhannu Rhos Glandenys yn 3 adran o laswelltir gwlyb, cyfoethog mewn rhywogaethau, gyda mosaig o gymunedau cysylltiedig â gwlybaniaeth amrywiol y tir. Mae'n enghraifft
ragorol o laswelltir 'rhos' gwlyb yng Ngheredigion.
18. Rhos Glyn-Yr-Helyg
Porfa heb ei gwella yn llawn hesg. Mae rhan helaeth o hanner deheuol y safl e yn Wellt y Gweunydd gyda Brwyn Blodeufain
a Brwyn Llyfn. Ers i'r Ymddiriedolaeth brynu'r safl e, mae cyfanswm o 240 o rywogaethau o blanhigion wedi'u cofnodi ar y safl e.
19. Rhos Pil-Bach a Pennar Fawr
Porfa o Wellt y Gweunydd a Brwyn, gyda gwrychoedd hynafol. Llain o rostir gwlyb yn yr iseldir, a phyllau. Mae Rhos Pil Bach yn cynnwys pum cae o borfa wedi'u hamgáu gan gloddiau hynafol
a gwrychoedd. Mae Pennar Fawr yn debyg o ran natur ond bod ei strwythur yn fwy twmpathog.
20. Rhos-Y-Fforest
Gweddillion cors mewn cwm, gyda llaciau gwlyb cysylltiedig, a glaswelltir asid wedi'i amgylchynu gan borfa wedi'i gwella.
Yn ddim ond 150m uwch ben lefel y môr, a 7km o'r arfordir, mae'n un o'r ychydig geudyllau gwlyb o'r math yma sydd ar ôl a heb eu gwella.
21. Corsydd Teifi
Mae'r warchodfa wedi'i lleoli ar lawr sianel cyn-rewlifol llydan a adawyd gan lwybr yr hen afon Teifi ac sy'n gartref bellach i afon Piliau. Mae'r afon hon yn troelli'n gul, ond yn dwyllodrus o ddyfn, drwy'r corsydd. Ceir yma amrywiaeth o gynefinoedd, o borfa agored a gwrychoedd coediog trwchus i ffen o Werni a Helyg, cors o ddwˆr croyw gyda phyllau agored, corslwyni a llaidgloddiau llanwol. Gwelir Canolfan Natur Cymru ar y safle yma, yn cynnwys siop dymhorol, caffi a desg wybodaeth.