Sir Gaerfyrddin gwarchodfeydd natur
1. Allt Cross Inn Fach
am fwy o wybodaeth
2. Castle Woods
Mae Coed y Castell yn cynnwys dwy ardal o goetir lled-naturiol hynafol gyda hen goed ar y llethrau serth yn wynebu'r de a'r gorllewin ac yn edrych dros Afon Tywi. Gwelir adfeilion Castell Dinefwr mewn lleoliad trawiadol uwch ben dolydd d r Tywi i'r gorllewin o'r safl e.
3. Coed Wern Ddu
Coetir collddail cymysg a gwlyb a nant.
Mae Wern Ddu'n rhimyn hir o goetir derw aeddfed yn yr ucheldir, gyda nant yn rhedeg ar hyd y safle.
4. Cors Goch
Mae Cors Goch yn rhan o gyforgors yn yr iseldir ac yn un o'r chwe chyforgors fawr olaf yng Nghymru. Mae'r safl e'n cynnwys dyfnder o hyd at 5m o fawn, sy'n cynnwys tystiolaeth o gofnod amgylcheddol di-dor ers dros 800 o fl ynyddoedd. Dyma gofnod mwyaf cyfl awn Sir Gaerfyrddin o lystyfi ant y gorffennol.
5. Cors Pum Heol
Mae'r warchodfa'n cynnwys porfa debyg i ros, sy'n gorsiog a heb ei gwella.
Mae'n llawn Gwellt y Gweunydd, sy'n gorchuddio pant topograffi g ym mlaenddwr
Afon Dulais ger Pum Heol, Llanelli.
6. Ffrwd Farm Mire
Mign, corslwyn, twyni tywod creiriol a phorfa arw.
Mae Cors Fferm Ffrwd i'r gweld 4m uwch ben lefel y môr, yn nes at y tir o dwyni tywod Tywyn a Phembre. Dyma weddillion y mign a arferai ymestyn o Gydweli i Borth Tywyn ar un adeg, ac mae llai o ymyrraeth wedi bod yma nag yn unman arall.
7. Nant Melyn
Coetir derw hynafol yn yr ucheldir a rhaeadrau. Mae'r coetir yn gorwedd ar ymyl serth Cwm Nant Melin, gyda'r borfa wlyb uwch ben yn gorwedd ar lethr dipyn llai serth. Mae Nant Melin yn creu'r ffi n ddwyreiniol gan lifo dros gyfres o raeadrau bychain trawiadol.
8. Poor Man's Wood
Coetir derw hynafol yn yr ucheldir, a nant. Coetir o Dderw Digoes yw Coed y Dyn Tlawd gydag isdyfi ant o gyll. Mae ar ochr bryn ac yn edrych tua'r gogledd. Mae'r canopi'n cynnwys Criafol, Celyn, Afalau Surion Bach, Merhelyg, Ynn ac Ysgaw, gydag ambell Ffawydden yn y pen gogledd-orllewinol. Ceir ychydig o Gerddin Gwyllt yma hefyd, y rhywogaethau lleol.
9. Rhos Cefn Bryn
Mae Rhos Cefn Bryn yn cynnwys glaswelltir asid heb ei wella. Mae'r math yma o laswelltir wedi'i gyfyngu'n gyffredinol i Orllewin Cymru ac mae'n nodwedd a gysylltir â Sir Gaerfyrddin a De Ceredigion. Mae cynefinoedd o'r fath yn prinhau, gan arwain at golli ardaloedd pwysig ar gyfer nifer o rywogaethau arbenigol o adar, ymlusgiaid a phryfed.
10. Talley Lakes
Mae'r warchodfa'n cynnwys dau lyn sy'n gorwedd mewn ceunentydd rhewlifol ac wedi'u gwahanu gan rimyn cul o dir. Mae'r rhimyn hwn o dir yn cynnwys twmpath sy'n fwnt Normanaidd, wedi'i restru gan CADW. Mae camlas cul yn caniatáu i dd r lifo o'r llyn uchaf i'r llyn isaf, ac yn galluogi i'r pysgod a'r sliwennod symud o un llyn i'r llall.
11. Y Goyallt