Sorry but that page could not be found.
You have been re-directed to the home page instead.

Pal

PuffinLlun David Boyle 2006

Y pâl yw’r carfil Prydeinig mwyaf adnabyddus - mae’u hedrychiad lliwgar clownaidd yn eu gwneud yn adnabyddus yn syth.

Mae adenydd byr y pâl yn cael eu defnyddio i ‘hedfan’ o dan dŵr i chwilio am bysgod; fe fyddai adenydd mawr yn anfantais ond mae adenydd byr yn gwneud hedfan yn yr aer tamed fwy anodd ac mae’n rhaid i’r adar curo’u hadenydd yn gyflym i aros yn yr awyr.  Dim ond yn ystod yr haf mae gan balod pig lliwgar; mae’r platiau cornaidd neu ysgwyd coch a llwyd mawr ynghyd a’r rhosglwm cigog melyn yn gornel y geg yn cael eu tyfu yn hwyr yn y gaeaf er mwyn arddangos.  Ar ôl y tymor cymharu maent yn bwrw plu, mae’r pig gaeaf yn eithaf bach ac yn gyfyngedig ar y gwaelod, ac yn lliw du fel yw’r wyneb yn ystod yr adeg yma.

Puffins SkomerLlun David Boyle 2006
Poblogaethau

Yn llawer mwy cyffredin yn Ne Prydain cynt, mae nawr ychydig o nythod palod De i ffin yr Alban ac mae rhai ynys Sgogwm a Sgomer yn ddau o’r rhai pwysicaf.  Ar un adeg yr oedd y nythod yma yn fwy, ond mae’r poblogaethau llai heddiw i weld yn sefydlog.  Mae cyfrifiad cywir yn anodd, ond mae’r amcangyfrifon gorau’n dweud fod tua 2,000 o barau bridio ar Sgogwm a 6,000 ar Sgomer.  Ar Sgomer mae’r crynhoad mwyaf ar y culdir rhwng hafan y Gogledd ar De ac ar y ‘wick’, ond ffeindiwyd mewn niferoedd llai ar draws llawer o glogwyn i’r ynys.

Mudo

Nid yw astudiaethau modrwyo wedi dangos y stori lawn ynglŷn â ble mae palod yn treulio’r gaeaf.  Bron yn bendant mae hwn gan eu bod yn symud yn bell allan i’r môr.  Ond, mae rhai palod modrwyol Prydeinig wedi cael eu ffeindio i lawr arfordir Gorllewin Ewrop mor bell i’r de a Moroco, gyda rhai ym môr y Canoldir, tra bod rhai wedi cyrraedd mor bell i’r gorllewin a’r ‘grand bank’ i ffwrdd o’r Tir Newydd.

Nythi

Dychwelwyd i’w safleoedd nythi ym mis Ebrill, yn cynyddu’n raddol wrth i’r tymor dodwy wyau nesáu.  Nythwyd o dan y ddaear mewn tyllau, nid yn unig yn cystadlu gyda’i gilydd am rain, ond hefyd gydag adar drycin Manaw gan fod y ddwy rywogaeth yn defnyddio’r un fath o dyllau i nythi.  Mae palod yn hoffi safleoedd nythi yn agos i ben y clogwyn fel bod yr oedolyn medru dod i’r nyth yn gyflym ac yna dianc eto i’r môr, ac felly yn lleihau cyfle’r gwylanod rheibus i’w ymosod.  Mae gwylan y penwaig a’r wylan gefnddu leiaf yn aml yn erlid y palod sydd gyda bwyd i’w cywion a cheisio dwyn y pysgod, ond mae’r wylan gefnddu mwyaf yn lladd a bwyta’r palod.

Puffin and chickLlun David Boyle 2006
Bridio ac Ifanc

Gall siambr nyth fod sawl troedfedd o dan ddaear ac yn aml wedi’i leinio gyda darnau o wair marw, gludlys arfor a choesau clychau’r gog.  Yn y nyth, mae’r pâl benywaidd yn dodwy un wy, fel arfer yn gynnar ym mis Mai.  Mewn maint ac edrychiad, mae’r wy yn edrych yn debyg iawn i wy iâr wen ac yn cael eu deori gan y rhieni am tua chwe wythnos.  Mae’r cyw yn pwyso tua 35-45gram ac yn edrych yn debyg iawn i bêl fach llwyd-tywyll gan fod y manblu mor hir mae bron a gorchuddio’r pig bach a’r coesau a thraed.  Mae’r cyw yn sefyll yn y twll am tua chwe wythnos ac yn pwyso tua 300gram erbyn diwedd yr adeg yma.

Bwyd

Mae’r ddau riant yn dod a bwyd i’r cyw; llymrïaid yw’r bwyd mwyaf cyffredin ac yn cael i’w dal gan y rhieni trwy blymio.  Ar ôl dal llymrïen, mae’n cael eu dal rhwng y tafod a’r mandibl uchaf, fel bod yr aderyn medru dal un arall, ac un arall.  Ar Sgomer, y rhif cyffredin o bysgod i’w cludo nôl i’r nyth yw tua 10, ond record y byd yw 62!  Mae rhan fwyaf o gywion yn cael eu bwydo tua 5-8 gwaith y dydd, pob un ohonynt yn pwyso tua 8gram.

Puffin with SandeelsLlun David Boyle 2006

Erbyn diwedd mis Gorffennaf, amser mae’r cywion yn barod i adael yr ynys, maent dal heb dyfu’n llawn, dim ond tua 70% o bwysau’r oedolyn.  Yn wahanol i wylogod a llursod ifanc, maen nhw fedru hedfan eithaf da yn ystod yr adeg yma.  Ond, dal yn agored i ymosodiadau gan wylanod rheibus, felly fe adawyd yn ystod y nos, yn gweithio’i ffordd lawr ochr y clogwyn ac yn hedfan mewn i’r tywyllwch.  Fe awn ar ben ei hun ac i ffwrdd o’r tir erbyn bore.  Ar ôl hyn, maent ar ben ei hun a ni chawn unrhyw help wrth riant eto.

Mae’r pâl ifanc yn aros allan yn y môr am bron dwy flynedd, nid oes palod un flwydd oed yn glanio yn safleoedd nythi yn aml.  O ddwy flwydd oed ymlaen mae’r palod yn treulio mwy a mwy o amser yn y nythfa yn ystod yr haf, yn chwilio am gymar ac yn chwilio am dwll posib.  Er fydd ychydig ohonynt yn dechrau bridio yn bedwar blwydd oed, ni ddechreuir y rhan fwyaf ohonynt tan iddynt fod yn pum mlwydd oed.  Nid yw llwyddiant bridio palod yn uchel iawn, ar gyfartaledd mae pob pâr yn codi cyw bob dwy flynedd ac mae llai na un mewn pump o rhai ifanc yma yn goroesi i gyrraedd oedran bridio.

Unwaith cyrhaeddwyd oedran bridio, maent yn adar hirhoedlog.  Mewn amserau da, gall cymaint â 95% o adar bridio goroesi i bridio yn y flwyddyn ddilynol (ond yn y blynyddoedd diweddar mae rhifau Sgomer mwy agos i 85%).  Mae 95% o oroesiad blynyddol yn golygu fod disgwyliad einioes ar gyfartaledd ar gyfer palod sydd wedi dechrau bridio yw tua 20 mlynedd, felly yn cyfri’r pum mlynedd o anaeddfedrwydd, disgwyliad einioes ar gyfartaledd palod yw tua 25 mlynedd.  Mae palod unigol modrwyol wedi eu ffeindio ar ôl 29 mlynedd, ond mae’r modrwyau medru syrthio i ffwrdd felly nid yw’n edrych yn bosib ffeindiwyd aderyn yn gwisgo un o’r rhai newydd mewn blynyddoedd i ddod a thorri’r record!

Ymchwil

Mae ymchwil ar balod Skokholm a Skomer wedi cael eu gwneud am flynyddoedd.  Yr oedd yr ymchwil cyntaf wedi gwneud gan Ronald Lockley yn yr 1930au ar Skokholm.  Ers hynny mae llawer fwy o ymchwil wedi’i wneud, ac mae llawer fwy ynglŷn â hanes-bywyd palod trwy’r ymchwil yma.

Puffin SkomerLlun David Boyle 2006
Gwylio

Pryd mae’r amser orau i weld palod?  Mae mis Ebrill yn dda, gan fod yr adar yn paratoi ar gyfer y tymor newydd, ac ar rai diwrnodau mae nifer fawr ohonynt yn bresennol.  Yn ddirgel ar ddiwrnodau eraill nid oes un aderyn i’w weld gan eu bod allan ar y môr.  O ganol mis Mehefin pan mae’r ifanc yn cael eu geni mae’r nythod yn brysur iawn ac mae mwy o adar yn bresennol ar ddiwrnodau cymylog a gwlyb.  Er mae’r nifer fwyaf i’w weld yn hwyr ym mis Gorffennaf, ond nodwch, erbyn diwedd wythnos gyntaf mis Awst mae rhan fwyaf o’r palod wedi gadael ac erbyn canol y mis mae’r nythod yn wag eto, ac mae’n anodd dychmygu prysurdeb yr wythnosau cynt.

Os hoffech wybod mwy am balod Skomer, ac yr un amser cefnogi’r rhaglen gwaith, pam ddim dod yn cymar i bâl?  Manylion wrth yr Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru.