The Nature Centre

Parc Slip buildingFe adeiladwyd Canolfan Addysg Parc Slip yn 1994 gan y Bwrdd Glo ar gyfer pwrpasau addysg a nawr yn cael ei ddefnyddio gan yr Ymddiriedolaeth fel Canolfan Ymwelwyr.  Lleolwyd yr adeilad ger yr heol, wrth ochr gwarchodfa natur 100 hectar Parc Slip, a gyferbyn a phencadlys gweinyddol yr Ymddiriedolaeth

Defnyddiwyd y ganolfan ar gyfer ymweliadau ysgolion i’r warchodfa, gweithgareddau Clwb Watch Parc Slip, cyfarfodydd, ambell i ddiwrnod hyfforddiant a digwyddiadau.  Mae’r Canolfan hefyd yn cael ei hurio allan i gyfluniau lleol gan gynnwys clwb ffotograffiaeth ar gyfer ei digwyddiadau a chyfarfodydd.  Mae gan yr ystafell llawr y gallu i ddal hyd at 48 o bobl.  Agorwyd drysau’r ystafell yma allan i ardal y pwll ac yn edrych allan dros y warchodfa.Parc slip dipping platform

Gall yr ystafell llofft dal hyd at 20 o bobl am gyfarfodydd.  Mae gan yr ystafell ddau falconi bach gyda golygfeydd ar draws y warchodfa.  Mae yna doiledau a chegin fach.

Prisiau hurio ar hyn o bryd yw £25.00 am hanner-diwrnod neu gyfarfod nos a £50.00 am ddiwrnod llawn.  Mae grwpiau sydd yn aelodau cyfrannog yn derbyn gostyngiad o 50%.  Os hoffech neilltuo’r ganolfan ar gyfer cyfarfod neu ddigwyddiad, ffoniwch ni ar 01656 724100 neu e-bostiwch info@welshwildlife.org

Fitness trailMae mynediad yn dda trwy gydol y warchodfa, gyda llwyfannau trochi mewn pwll tuag at y canol, llwybrau gyda mynediad i bawb, llwybrau beicio, llwybrau naturiol, cuddfannau adar, meinciau picnic a hyd yn oed trywydd ffitrwydd newydd a adeiladwyd gan wirfoddolwyr lleol.

 

Parc Slip

Er ei fod wedi lleoli i ffwrdd o ardaloedd preswyl, mae’n weladwy o’rheol ac mae ganddo lwybr 4 o’r Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol yn rhedeg trwyddi o gyffordd 36 yr M4, trwy ddilyn yr arwyddion twristiaeth frown gyda llun hwyaden a ‘Parc Slip’.