Lockley Lodge – Porth i Ynys Skomer a Skokholm

Lockley Lodge under constructionLockley Lodge under construction
Yn y dechreuad.....

Cafodd yr adeilad pren yn Martin’s Haven, adnabyddwyd heddiw fel Lockley Lodge, ei adeiladu yn 1928 gan R M Lockley fel ei gartref ar y tir mawr.  Buodd Lockley yn byw a ffermio ynys Skokholm rhwng 1927 a 1939 ac fe ysgrifennodd sawl llyfr am natur a’i amser ar ynys Skokholm.  Mae’r llyfr cyntaf ‘Dream Island’ yn sôn am fanylion ynglŷn ag adeiladu’r adeiladau, a chafodd ei alw’n ‘lower island lodge’.

 

Dros y blynyddoedd ar ôl y rhyfel yr oedd Lockley Lodge yn cael ei ddefnyddio fel safle ar y tir mawr ar gyfer ynysoedd Skomer a Skokholm ac wedi bod yn rhan bwysig o fywyd ynysol fel lloches o dywydd drwg unwaith ar y tir mawr a methu mynd nôl adref!  Yn ystod rhan fwyaf o’r 60au rheolwyd yr ynysoedd yn breifat ac yr oedd yr adeilad yn cael ei alw’n Skokholm lodge ac yn cael ei ddefnyddio fel cartref gwyliau. 

Trosglwyddwyd R M Lockley yr adeilad i’r ymddiriedolaeth naturiolwyr Gorllewin Cymru (nawr YNDGC) yn 1968.  Dyma pryd gafodd ei ail enwi’n Lockley Lodge.  Yn 1976 penderfynwyd yr ymddiriedolaeth i ddefnyddio Lockley Lodge fel canolfan gwybodaeth ar gyfer yr ynysoedd a phenrhyn Marloes.  Profwyd hyn i fod yn syniad llwyddiannus ac ers 1977 mae mwy o bwyslais wedi rhoi i ddarparu gwybodaeth ac anrhegion i’r cynnydd mewn ymwelwyr i’r arfordir ac ynysoedd.

A Nawr.....

Parhaodd hoff adeilad pren Lockley am 79 mlynedd cyn bod angen ei ail adeiladu.  Daith arian am y prosiect yma o Cronfa Treftadaeth y Loteri fel rhan o ‘prosiect profiad etifeddiaeth Ynys Skomer’.  Cwblhawyd yr adeilad newydd ym mis Medi 2006.  Cymerwyd gofal i ail-wneud ymddangosiad o gynllun gwreiddiol Lockley.

Tu fewn ffeindiwch groeso cynnes oddi wrth ein staff gwasanaethgar a gwybodus a siôp roddion gyda chofroddion o’ch ymweliad i Skomer neu Skokholm; unrhyw beth o gerdyn post i lun argraffiad cyfyngedig o balod wedi arwyddo gan Alastair Proud.

Lockley Ldge - An Artist ImpressionLockley lodge - An Artist Impression

Yn newydd ar gyfer 2007 bydd sgriniau rhyngweithiol i’ch caniatáu i wylio natur yr ynysoedd ar ddyddiau ni fedrwch lanio ac arddangosfa natur ysbrydoledig hollol newydd.

Amserau Agor 2007

Sul 1 Ebrill – Gwener 28 Medi

9.30-4.30 (neu tan y bad olaf nôl o Skomer)

ar gau am ginio 12.15-12.45