Ein Gwasanaethau Addysg

Mae Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru yn gallu darparu:

 - ymweliadau tywysiedig i'n gwarchodfeydd natur (£3.50 y plentyn ar gyfer ysgolion ddi-aelod, £2.50 y plentyn i aelodau)
 - Help gyda meysydd chwarae ysgolion (£250 y diwrnod)
 - Diwrnodau hyfforddiant athrawon
 - Llogi offer (£20 y diwrnod)
 - Gwasanaethau boreol (Croesawn roddion)
 - Profiad gwaith i fyfyrwyr

Mae'n holl weithgareddau wedi cael ei asesu trwy ddefnyddion ein ffurflen asesu peryglon ond fe awgrymwyd eich bod yn defnyddio'r ffurflen i greu asesiad peryglon eich hun, sy'n addas i'ch dosbarth.

Trwy ddod yn aelod o'r Ymddiriedolaeth Natur, gall ysgolion cael budd o brisiau llai a mynediad i'n hadran aelodau yn unig.  Mae aelodaeth ysgolion yn costio £100 y flwyddyn ac fe fyddwch yn derbyn tystysgrif a tri chopi o'r adnoddau olynol.


 - Watchword - cylchgrawn lliwgar i blant
- Wildlife Extra - Poster lliwgar sglein
- Link - cylchgrawn i athrawon
 - Cylchlythyr Watch - newyddion 'Wildlife Watch' lleol
 - Natural World - cyhoeddiad yr Ymddiriedolaethau Natur DU
 - Welsh Wildlife - cyhoeddiad eich Ymddiriedolaeth Natur leol

Fe fydd aelodau ysgol hefyd yn derbyn un ymweliad am ddim y flwyddyn (gall yr ysgol ddewis i ymweld ag un o'n gwarchodfeydd neu gael ymweliad yn ei ysgol) ac fe fyddwn hefyd yn cael y cyfle i  ddechrau clwb 'watch' yn ei hysgol.  Pe bai ysgolion am gael mwy nag un ymweliad y flwyddyn fe fydd y gost yn £2.50 y plentyn i ymweld â'n safleoedd.  (Grwpiau di-aelod £3.50 y plentyn) ac ar gyfer aelod o staff i ymweld â'r ysgol - £250 y diwrnod.

Mae'n dudalennau dadlwytho dysgu ac addysg ar hyn o bryd yn cael ei ail-lunio.  Yn fuan fe fyddwch yn ychwanegu gwybodaeth ac adnoddau newydd. 

Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleuster a achoswyd.