Wardeniaid Cynorthwyol Gwirfoddol – Ynys Skomer
Mae wardeniaid preswyl llawn amser yn goruchwylio rhedeg yr ynys sydd ar agor i ymwelwyr rhwng y Pasg a’r Hydref. Yn ystod y tymor mae lle am hyd at chwe warden cynorthwyol bob wythnos (Sadwrn i Sadwrn), i helpu gyda gwaith cadwraeth (arolygon adar a morloi), cynnal a chadw’r adeiladau, rheoli’r ymwelwyr dydd a bod yn gymorth i’r ymwelwyr dros nos. Mae’r galw’n uchel, felly mae’n rhaid cyfyngu’r arhosiad i ddwy wythnos heblaw am mewn amgylchiadau arbennig.
Mae’n rhaid bod yn 16 mlwydd oed, yn cadw’n iach yn gorfforol, ac yn barod i weithio oriau hir. Yn gyffredinol, nid oes angen unrhyw brofiad ond nodwch unrhyw sgiliau sydd gennych fel gellir defnyddio’r tasgau iawn tra ar yr ynys. Rydyn hefyd yn ceisio rhoi cyfleoedd i’r anabl; mae’n rhaid rhoi gwybod i’r warden os mae’r cyfleoedd cywir i’w gael er mwyn datrys unrhyw broblemau all godi wrth weithio ar yr ynys.
Mae’r llety yn syml. Mae’r llety newydd gael eu huwchraddio a nawr yn cynnwys dwy ystafell gyda gwelyau bync ac un ystafell gwely gefell gyda stordy bwyd, lle coginio (dim microdon) a thŷ bach a chyfleusterau cawod gymunedol. Nodwch os gwelwch fod yn dda fod cyfleusterau cyfyng o drydan ar yr ynys. Mae carthenni plu a chlustogau’n cael eu darparu ond dylech ddod a chas glustogau a naill ai cas garthen blu ac isgynfas neu sach gysgu. Mae esgidiau cryf, dillad cynnes a dyfrglos yn angenrheidiol.
Volunteers' quarters
Volunteers' kitchen
Unwaith mae’ch lle wedi’i gadw fe fyddwch yn derbyn manylion o’r gofynion yma yn ogystal â pheth cyngor a chysylltiadau defnyddiol ynglŷn â theithio, llety lleol, amserau’r bad ayb.
Nid oes angen talu am y bad i a nôl o’r ynys.
Cysylltwch â swyddfa llogi’r ynys ar 01239 621600/621212 cyn danfon taflen llogi i archebi am y tro. Fe fydd pob taflen llogi yn cael eu cydnabod ac fe fydd atgoffiad yn cael eu danfon, gyda gwybodaeth bellach, tuag wyth i deg wythnos cyn i’ch mynd i’r ynys.
Dadlwythwch y daflen llogi yma a danfonwch i logi’r ynys (Island Bookings), Canolfan Natur Cymru, Cilgerran, Aberteifi, Sir Benfro, SA43 2TQ.