Llety Ynys Sgomer

 

Mae'r cofadeiladau fferm yng nghanol yr ynys wedi cael eu hadnewyddu dros y ddwy flynedd diwethaf, mewn i lety cyfforddus ar gyfer 15 o bobl. Mae'r llety'n cynnwys:

Shearwater roomShearwater room
Pâl (llawr isaf): dwbl a gwelyau bync (cysgu pedwar)

Gylfinir (llawr isaf): gwelyau gefell

Gwylog (llawr isaf): gwelyau gefell

Brân Goesgoch (llawr cyntaf): tri gwely sengl

Aderyn Drycin Manaw (llawr cyntaf): gwely gefell a gwely bync (Cysgu pedwar)

Mae carthenni plu a chlustogau’n cael eu darparu.  Bydd rhaid dod a sach gysgu a cas glustog neu gas garthen blu, isgynfas a chas glustog.  Byddwch yn ymwybodol am y fath nid oes cyfleusterau golchdy ar yr ynys.

Kitchen for overnight guestsKitchen

Mae cegin hunanarlwyo'r ymwelwyr wedi cael eu hymrannu gyda bob hanner yn cynnwys sinc, ffwrn a man paratoi.  Rhannir un oergell fawr ac mae yna stordy ar gyfer bwyd sych; nodwch nid oes microdon.  Mae yna hefyd ystafell bwyta a lolfa.  Fe fydd cawodydd gwresogi heulog i’w gael ond nodwch fod yna prinder dŵr ar yr ynys.

Loung/dining roomLounge/dining room

 

Mae yna lyfrgell, ac mae croeso i  ymwelwyr dros nos i’w defnyddio.  Fyddwch hefyd yn cael eich gwahodd/hybu i gyfrannu i’r cofnodion natur ar yr ynys yn ystod eich gwyliau ac i drafod gyda’r ymwelwyr eraill a gwirfoddolwyr.

Mae’n rhaid gadael eich ystafell erbyn 9yb ar eich diwrnod gadael - fe fydd hwn yn gadael digon o amser i lenwi’r tractor gyda’ch pethau a’u cludo i’r man ymadael.  Dylai’r ystafelloedd cael eu gadael yn lân a taclus erbyn yr ymwelwyr nesaf.  Os hoffech aros ar yr ynys am y dydd gallwch adael eich eiddo yn y lolfa.

Nodwch os gwelwch yn dda fod yr ynys ar gau ar ddydd Llun (heblaw am ddydd Llun gŵyl y banc) - os hoffech gyrraedd ar ddydd Sul fe fydd yn rhaid aros am ddwy noswaith.

Yn 2008 mae’r ynys hefyd ar gau rhwng 20-22 o fis Mai ar gyfer cyfrifiad adar y môr.  Os hoffech aros ar yr ynys o ddydd Sul 18 Mai byddwch ar yr ynys tan fore dydd Gwener y 23ain o Fai (pump nosweth).  Ni fydd unrhyw bad arall yn ystod yr adeg yma.  Felly fydd yn rhaid i chi ddod a ddigon o fwyd gennych.

BADAU

Nid oes angen llogi, hwylio am 10.00, 11.00 a 12.00 bob dydd.  Mae’r tywydd medru amharu gyda hwylio - gwnewch yn siŵr trwy ffonio ‘Lockley Lodge’(01646 636234), Dale Sailing (01646 603123) neu’r Dale Princess (07831 659623) o flaen llaw. 

Fedrwch checio tywydd Hafan Martin trwy glicio yma.

Mae tâl am y bad i’w talu ar y bad.  Prisiau 2007 oedd £8 i oedolion, £6 i blant.
Nid oes tal i lanio ar yr ynys i westeion dros nos.

SUT I'W GYRRAEDD

Mae’r bad yn gadael o Hafan Martin (Cyfeirnod Grid Map Ordnance SM760091) 2 milltir o Marloes sydd tua 12 milltir i’r De-Orllewin o Hwlffordd yn Sir Benfro.  Fe fydd manylion llawn yn cael ei anfon ar ôl i chi gadw lle.

PARCIO CEIR

Mae gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol maes parcio, â gofalwr trwy’r dydd, yn Martin’s Haven.  Am ddiogelwch dros nos rydyn yn awgrymu fferm west hook sydd tua ¼ milltir o’r hafan.  Mae tâl am y ddau.  Prisiau 2007 fferm west hook oedd £2.50 y dydd, a £10 am yr wythnos; dylech drefnu gyda’r teulu Thomas ar (01646 636424).

AMODAU CYFFREDINOL

Mae gan yr ynys cod ymddygiad manwl er mwyn diogelu'r amgylchedd a'r natur, ond hefyd i osgoi damweiniau - parchwch y cod os gwelwch fod yn dda.

Mae gwybodaeth ar gael ym mhob ystafell a lolfa’r ymwelwyr.  Darllenwch yn ofalus os gwelwch yn dda.

RHYBUDD

Gall tywydd drwg neu foroedd uchel oedi’r bad neu ymyrryd gyda hwylio’n gyfan gwbl.

Pe bai’n amhosib cyrraedd yr ynys fe fydd yr ymddiriedolaeth yn ad-dalu’r tâl llogi (heb yr arian cadw) ond nid yw’r ymddiriedolaeth medru cymryd cyfrifoldeb am gostau all codi os wedi’ch rhwystro gan stormydd ar yr ynys neu orfod ffeindio llety ychwanegol ar y tir mawr.

Felly, awgrymwyd bod ymhelwyr yn cael yswiriant am y fath posibiliadau.  Fel arfer gall hwn cael eu gwneud trwy’ch cwmni yswiriant arferol.