Taflen Ffeithiau Gwylogod

Gwylio

Mae’r wylog yn un o dri charfil rydych yn debygol o weld ar ac o gwmpas Ynys Skomer.  Y ddau arall yw’r pâl a’r llurs.  Mae’r wylog yn fyw ar siliau o gwmpas yr ynys, a hefyd yn bridio ar yr ynysoedd gerllaw o Skokholm, Middleholm, Dewi a Gwales, er mewn niferoedd llai nag sydd ar Skomer.  Ffeindiwyd hefyd ar rai clogwyni’r tir mawr yn Sir Benfro, mwyaf amlwg yw ‘Elegug Stacks’ ym mhenrhyn Castellmartin o Ben Stackpole.  Nythfa gwylogod Skomer yw’r mwyaf a pwysicaf yng Nghymru, ac yn fwy na’r rhan fwyaf o rhai Lloegr, gyda’r adar yn fwy amlwg ar glogwyn uchel a’r ‘Wick’.

Edrychwch yn ofalus ar nythod gwylog ac efallai byddwch yn ffodus i weld math amrywiol o’r enw gwylog ‘ffrwyn’.  Mae gan hwn modrwy llygad gwyn o ble mae llinell wen yn rhedeg tuag at y gwar.  Mae tua 1% o’r gwylogod sydd ar Skomer yn rhai ‘ffrwyn’, gyda’r gyfran yn cynyddu'r fwyaf gogledd yr ewch, yn cyrraedd dros 50% yng Ngwlad yr Iâ.

Poblogaethau

Ar hyn o bryd mae poblogaeth gwylog ar Ynys Skomer a siŵr o fod trwy gydol Môr yr Iwerydd yn well nag unrhyw adeg arall dros y ganrif ddiwethaf.  Tan yn ddiweddar mae stori poblogaeth y wylog wedi bod yn un trist.  Nid ydyn yn gwybod sawl gwylog a oedd wedi bridio ar Skomer ar ddechrau’r ganrif, ond rydyn yn gwybod o luniau tynnwyd yn ystod yr amser yma fod y boblogaeth yn un fawr iawn, yn bosib tua 20,000 o barau.  Ond, rhywbryd rhwng yr amser yna a’r 1940au fe ddechreuodd niferoedd lleihau.  Pan dynnwyd Ronald Lockley llun o’r ‘Wick’ yn 1934 roedd gwylogod yn bridio’n barhaol ar hyd prif ffawt yn rhedeg ar hyd y clogwyn.  Erbyn 1946 roedd niferoedd wedi lleihau ac roedd nifer o fylchau yn y nythfa, sydd ddal yn bodoli.

Bygythiadau

Yn aml wylogod yw’r prif ddioddefwyr yn ystod digwyddiadau llygredd olew, ac mae’n bosib fod y lleihad yn ganlyniad o olchi tanciau olew ar y môr, a thollau llongau yn ystod yr ail ryfel byd.  Ac mae trychinebau diweddar fel y ‘Sea Empress’ wedi creu nifer o golledion.  Dechreuodd cyfrifon blynyddol gwylogod ar Skomer yn 1963, ac wedi cael eu gwneud ers hynny.  Mae'r rhain yn dangos fod niferoedd yn dechrau dirywio trwy’r 1960au ac yn cyrraedd y lefel lleiaf yn 1970 yn dilyn yr ‘Irish seabird wreck’.  Yn ystod y flwyddyn yna roedd llai na 2000 o barau wedi bridio yn yr ynys.  Yr oedd y niferoedd wedi cynyddu’n araf ar ôl hyn, ond fe ddechreuodd y cynnydd presennol yn 1980.  Ar hyn o bryd mae’r boblogaeth tua 10,000 o barau ac yn dal i ehangu.

Mudo a Bridio

Treuliwyd gwylogod y gaeaf ar y môr ac yn dychwelyd i’r clogwyni tuag amser Nadolig.  Rhwng Nadolig ac Ebrill mae’r ymweliadau i’r ynys yn ysbeidiol ac yn aml yn rhai byr.  O fis Ebrill ymlaen mae’r ymweliadau yn fwy aml ac mae’r adar cyntaf yn dechrau dodwy yn gynnar ym mis Mai.  Mae gwylogod yn dodwy un wy mawr.  Mae bron pob un yn wahanol mewn lliw a phatrwm, ac mae hwn yn eu galluogi i adnabod wy eu hun mewn grwpiau mawr o adar bridio.  Os collwyd yr wy cyntaf mae’n bosib iddynt ddodwy wy arall.  Mae’r cyw yn deori ar ôl 32 diwrnod ac yn treulio tair wythnos neu fwy yn y nythfa, yn cael eu bwydo fwyaf ar grythyll ac ychydig o lemyriaid.  Un o’r pethau mwyaf anhygoel am gywion gwylogod yw eu bod yn magu plu cyn iddynt orffen tyfu a methu hedfan.  Fe fydd y cywion yn gadael y nythfa’n hwyr ym mis Mehefin neu gynnar yng Ngorffennaf, yn gadael yn y tywyllwch.  Taflwyd eu hun oddi ar y clogwyn i lawr i’r môr ble mae’r tad yn aros, ac yn nofio’n gyflym allan i’r môr, yn ôl pob tebyg i osgoi gwylanod rheibus.  Mae’r tad yn edrych ar ôl y cywion am bedwar i chwe wythnos arall, ac ar ôl hyn fydd y cywion yn hollol annibynnol.  Erbyn dechrau mis Awst mae’r gwylogod diwethaf wedi gadael y clogwyni ac mae’r siliau’n edrych yn hollol dawel ar ôl tri mis o brysurdeb llwyr.

Ymchwil

Ers cynnar yn yr 1970au mae gwylogod ar Skomer wedi bod yn destun o ymchwil tymor hir.  Mae’r ymchwil wedi cael sawl nod, gan gynnwys astudiaeth o’u hymddygiad cymdeithasol, bioleg bridio a dynameg poblogaeth.  Mae’r ffactorau yma i gyd yn gydberthnasol.  Yn nodweddiadol mae gwylogod yn byw ysgwydd i ysgwydd gyda’i chymdogion, ac mewn ardaloedd, fel ochr morol o’r ‘wick’, bridiwyd o fewn dwysedd anhygoel - 30 par i bob medr sgwâr!  Mae byw o fewn dwysedd mor uchel yn gofyn am berthnasau cymdeithasol cymhleth, ond hefyd yn darparu manteision.  Trwy bridio mewn grwpiau dwys mae’r gwylogod yn medru atal gwylanod penwaig a chefn du mwyaf, y ddau brif reibwyr o wyau a chywion gwylogod ar Skomer.  Mae’r gyfran o barau o wylogod yn magu cywion yn llwyddiannus yn fwyaf (90%) ble mae’r grwpiau’n ddwys ac yn llai ble maen nhw yn wasgarog (20%).  Yn gyfan gwbl, mae tua 70% o wylogod yn llwyddo magu cyw bob blwyddyn.  Neu, i’w ddweud yn ffordd arall mae’r llwyddiant bridio ar gyfartaledd yn 0.70 cyw i bob pâr bob blwyddyn.

I’w cymharu gan adar cân fel y Titw Tomos Las ac Aderyn Du, mae’r nifer o wylogod ifanc gan bob pâr i weld yn isel iawn, felly sut all y boblogaeth cynnal eu niferoedd?  Yr ateb yw hyd oes hyr yr oedolion.  Trwy farcio adar Skomer gyda modrwyau lliw fel bod pob aderyn yn adnabyddus mae’n bosib amcangyfri’ goroesiad o flwyddyn i flwyddyn, ac i amcangyfri’ pa mor hir maen nhw’n byw.  Helpwyd yr ymchwil yma gyda’r ffaith fod gwylogod yn tueddu bridio yn yr un man bob blwyddyn.  Fe fuodd un aderyn gyda modrwy lliw yn bridio ar yr un sil bychan ar ochr dwyreiniol yr ynys am ryw ugain mlynedd.  Er bod gwylogod yn dychwelyd i’r nythfa erbyn ei fod yn tair blwydd oed fe fydd y rhan fwyaf ohonynt ddim yn dechrau bridio tan yn chwe blwydd oed, tra bod rhai ddim yn dechrau tan yn naw.  Ar gyfartaledd edrychir fel ei fod yn byw am deg mlynedd arall ar ôl iddynt ddechrau bridio.

Cwestiwn arall mae’r ymchwil wedi ceisio ateb yw beth yn gwmws yw oedran gwylogod pan ddechreuir bridio.  Am sawl flwyddyn nawr mae sawl cant o gywion gwylogod wedi cael eu modrwyo ar Skomer bob Mehefin, ac yn y blynyddoedd dilynol mae tîm o wylwyr wedi chwilio amdanynt.  Mae’r ifanc yn dychwelyd am y tro cyntaf yn ei ail neu trydydd haf, ac yn ffurfio grwpiau mawr o adar, cyfeiriwyd atynt fel ‘clybiau’, a welwyd yn agos i waelod y clogwyni yn ‘High Cliff’ a tuag at ochr morol y ‘wick’.  Yn ei pedwaredd flwyddyn mae’r adar ifanc yma yn dechrau ymweld â’r siliau bridio, yn aml yn dychwelyd o fewn ychydig troedfedd o ble cawsant eu geni!  Mae’n edrych yn debyg fod bridio’n digwydd gyntaf yn y pumed flwyddyn, er bod y rhan yma o’r ymchwil heb barhau digon hir i fod yn siŵr.

Mae’r ymchwiliadau yma yn ein helpu deall bywydau gwylogod unigol a hefyd sut mae’r poblogaethau’n digwydd.  Mae’r rheswm am y cynnydd presennol heb eto cael ei esbonio, ond ar ôl adeg hir o ddienyddion mai dyfodol o’r wylog fel aderyn bridio ar Skomer yn edrych yn fwy diogel heddiw nac yn ystod y blynyddoedd diwethaf.