Ein haddewidion codi arian
Rydyn yn aelodau o Gynllun hunan rheoli Bwrdd Safonau Codi Arian (BSCA). Mae BSCA yn gweithio i sicrhau fod cyflunnianau sydd yn codi arian wrth y cyhoedd yn ei wneud yn gywir ac yn onest. Fel aelod o’r cynllun, rydyn yn dilyn codau ymarfer codi arian y sefydliad codi arian ac yn cydymffurfio gyda’r prif nodau yn y codau a’r addewid yma.
Rydyn yn ymroddedig i safonau uchel
- Gwnawn bopeth y gallwn i sicrhau fod casglwyr arian, gwirfoddolwyr a chontractwyr codi arian sydd yn gweithio gyda ni yn dilyn y codau a’r addewid yma
- Rydyn yn cydymffurfio gyda’r gyfraith gan gynnwys y rhai sydd i’w wneud gydag amddiffyn data, Iechyd a Diogelwch a’r amgylchedd
Rydyn yn Onest ac yn Agored
- Rydyn yn dweud y gwir a ddim yn gorliwio
- Rydyn yn gwneud beth y dywedwn ein bod yn gwneud
- Fe atebwn bob cwestiwn rhesymol ynglŷn â’n gwaith codi arian a chostau. Cysylltwch â ni, ewch i’n gwefan neu edrychwch ar ein hadroddiad blynyddol os oes angen rhagor o fanylion arnoch
Rydyn yn Glir
- Rydyn yn glir amdano pwy ydym ni, beth rydyn yn gwneud a sut mae’ch rhodd yn cael ei ddefnyddio
- Ble mae gennym gytundeb hysbysebion gyda chwmni masnachol, fe wnawn yn glir y swm fe fyddwn yn derbyn
- Rydyn yn gwneud eglurhad clir sut fedrwch roi rhodd a chymhwyso ymrwymiad rheolaidd
Rydyn yn Barchus
- Rydyn yn parchu hawliau, urddasau, a phreifatrwydd ein cefnogwyr a buddiolwyr
- Ni fyddwn yn eich rhoi o dan unrhyw bwysau i roi rhodd ac os nad ydych am roi neu am orffen rhoi, yna fe fyddwn yn parchu eich penderfyniad
- Os ddywedwch wrthym nad ydych am gael ei gysylltu gyda mewn modd penodol yna ni fyddwn yn ei wneud
Rydyn yn Rhesymol ac yn Deg
- Cymerwn ofal i ddim defnyddio unrhyw luniau neu eiriau a fydd yn achosi unrhyw gyfyngder
- Cymerwn ofal i beidio achosi poendod a tarfiad afresymol
Rydyn yn Gyfrifol
- Os rydych yn anhapus gydag unrhyw beth rydyn wedi gwneud wrth godi arian, fe fedrwch gysylltu gyda ni i wneud cwyn
Mae gennym drefn cwynion, copïau ar gael wrth ofyn trwy ddanfon e-bost i info@welshwildlife.org neu ffonio swyddfa Tondu ar 01656 724100.