Taflen Ffeithiau Bran Goesgoch
Nodweddion
Photo David Boyle 2006Poblogaethau
Yn y Deyrnas Unedig mae’r Frân Goesgoch nawr yn aderyn o’r brodor Celtaidd. Yn Sir Benfro mae tua 55 pâr i gael yn y morlinau agored, gyda phenrhyn Castellmartin ac Ynys Dewi yn gadarnleoedd penodol tra bod pâr wedi nythi ar ynys Skokholm ers 1992. Yn ardaloedd eraill Cymru ffeindiwyd ar hyd rhannau o arfordir Ceredigion, gyda thri phâr yn gefn gwlad yng ngogledd y sir. Mae bridio cefn gwlad yn fwy cyffredin yng Ngogledd Cymru mewn chwarelu a thyllau glofeydd. Mae pâr wedi nythu, er ddim o hyd yn llwyddiannus, ar arfordir y Gwŷr ers 1990 ar ôl absenoldeb o bron canrif. Mae Brain Coesgoch yn bridio ar Ynys Manaw (60 pâr) Yr Alban (tua 70 pâr yn Kintyre, Islay, Jura a Colonsay) ac yn yr Iwerddon (tua 700 pâr) o Antrim yn y gogledd trwy Ddonegal ac arfordir gorllewin a De i Wexford, gyda rhai yng nghefn gwlad y siroedd gorllewin. Ond, oedd Brain Coesgoch yn arfer fod llawer mwy cyffredin na heddiw, a ffeindiwyd yn bell mewn i gefn gwlad, yn Lloegr gan gynnwys Sir Gaerefrog, a siroedd deheuol i Gaint, a’r Alban. Ar un adeg roeddynt mor gyffredin yng Nghernyw cawsant eu galw’n Brain Coesgoch Cernyw. Fe ddiflannodd y Frân Goesgoch fel aderyn bridio o Gernyw yn 1948, ond wedi ailwladychu yna yn ddiweddar, gyda’r pâr cyntaf i nythu ers dros hanner canrif yn 2002. Maen nhw’n gysylltiedig gyda sawl chwedl yng Nghernyw, yr un mwyaf adnabyddus yw bod Brenin Arthur heb farw, ond wedi cael ei droi mewn i Frân Goesgoch i hawntio’r arfordir. Ar ôl newid ei deyrngarwch o Ddindagwl ar draws y Môr Hafren i Sir Benfro, mae nawr yn ymddangos fel ei bod wedi dychwelyd adref!
Bygythiadau
Fe ddigwyddodd y prif ddirywiad o’r Frân Goesgoch yn ystod y deunawfed a’r pedwerydd ar bymtheg ganrif. Nid yw’r rhesymau am y dirywiad wedi deall yn llwyr, ond roedd newidiadau mewn patrymau defnydd tir siŵr o fod wedi chwarae rhan bwysig. Wrth i ymarferion pori newid, yn aml yn arwain i ehangder mewn rhedyn a phrysgoed dros ardaloedd o laswellt cwta cynt, felly roedd safleoedd bwydo ar gael i’r Frân Goesgoch wedi dirywio ac amrediad bridio wedi lleihau.
Gall nifer o ffactorau arall fel erledigaeth wrth bobl a newidiadau hinsawdd hefyd fod yn gysylltiedig gyda dirywiad y Brain Coesgoch. Ond, mae’r Frân Goesgoch yn fesurydd da o ardaloedd bugeiliol, lled-naturiol sydd yn cynnwys nifer o nodweddion o werth cadwraeth uchel. Mae ymchwil yn cael i’w gwneud yng Nghymru ac yn prif gadarnle’r Frân Goesgoch yn Yr Alban, yr ynys Hebreaidd fewnol Islay, i adnabod gofynion cynefinoedd Brain Coesgoch gyda’r gobaith i ddiogelu’r, ac os yn bosib cynyddu’r dosbarthiad ac amlder.
Rheolaeth
Mar Brain Coesgoch yn dibynnu ar laswellt byr i fwydo, ac felly mae darnau arfordirol o rostiroedd arforol a phorfa fer wedi pori yn bwysig iawn iddynt. Mae systemau amaethyddol bugeiliol gydag arddwysedd isel sydd yn nodweddiadol gyda chlytiau bach o amaethu, sofl tir âr, cylchdroeon porfa hir a chylchoedd a thir heb ei amaethu, yn darparu’r cymysgedd orau o ardaloedd bwydo posibl. Mae’n bosib fod y symudiad i amaethyddiaeth arddwysedd uchel, gydag ail-hadu aml o borfeydd a chynnydd mawr mewn tir âr wedi gwneud ardaloedd yn anaddas. Mae polisïau rheoli cyflenwad hefyd yn bwysig iawn. Mae lleihad mewn cyfundrefn cyflenwi a thyfiant dilynol rheng o lystyfiant hir yn lleihau ardaloedd bwydo sydd ar gael, ac mae cadw da tu fewn yn ystod y gaeaf mewn sawl ardal yn golygu fod y pryfed sydd yn gysylltiedig gyda baw da ddim ar gael i’r Brain Coesgoch yn ystod yr adeg yma.
Bwyd
Mae’r adar yn chwilio am fwyd trwy ddefnyddio’i bigau hir, crom, mae chwilod, larfau pryfed a morgrug yn bwysig, ynghyd a’r infertebratau ffeindiwyd ym maw anifeiliaid, yn enwedig da a defaid, gyda rhain yn bwysig iawn i adar ifanc. Yn y gaeaf all grawn cael i’w fwyta mewn caeau sofl, tra mewn rhai ardaloedd yn ystod tywydd caled mae’r Brain Coesgoch yn chwilio am infertebratau o fewn gwŷg y môr. Mae pridd rhewedig yn eu gwneud yn anodd i Frân Goesgoch bwydo, ac mae nifer o golledion medru digwydd yn ystod tywydd caled.
Bridio
Yn gyffredinol ni fydd Brain Coesgoch yn bridio tan ei fod yn tair neu pedair blwydd oed, er bod parau medru ffurfio yn y flwyddyn gyntaf neu’r ail.
Photo David Boyle 2006
Photo David Boyle 2006